Cymeradwyo cynllun fferm wynt oddi ar arfordir Sir Benfro
Mae cynlluniau ar gyfer fferm wynt oddi ar arfordir Sir Benfro wedi eu cymeradwyo.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi caniatâd ar gyfer Fferm Ynni Gwynt Llŷr, sy'n cael ei datblygu gan Cierco Energy yn y Môr Celtaidd.
Fe fydd tyrbinau gwynt yn arnofio ar y môr er mwyn ffrwyno ynni'r gwynt.
Dywedodd y llywodraeth bod y prosiect yn “cyfrannu tuag at uchelgeisiau Cymru ar gyfer carbon sero-net”, gyda disgwyl i tua 2,000 o swyddi gael eu creu yn ystod cyfnod adeiladu'r cynllun a rhagor ar ôl iddo gael ei gwblhau.
Mae’r caniatâd yn “garreg filltir bwysig i'r prosiect wrth iddo symud tuag at y cam adeiladu,” yn ôl llefarydd.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price: "Gall prosiectau ynni gwynt mawr ar y môr fel y cynllun pwysig hwn fod yn sbardun ar gyfer twf economaidd a ffyniant.
"Byddwn yn gweithio gyda'r cwmni i sicrhau y bydd y prosiect hwn yn darparu swyddi o ansawdd uchel i bobl yng Nghymru, sy'n cyd-fynd yn uniongyrchol â'n cenhadaeth i gynyddu cynhyrchiant.”
'Arloesi'
Cafodd Fferm Ynni Gwynt Llŷr drwydded forol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Mehefin, gyda hawliau gwely'r môr yn cael eu sicrhau ym mis Gorffennaf ar ôl llofnodi Cytundeb Prydles gydag Ystâd y Goron.
Bydd y prosiect yn dangos technolegau arloesol ym maes ynni gwynt ar y môr, ac yn ôl datblygwyr, bydd yn enghraifft o sut y gall arloesi ryddhau adnoddau ynni gwynt ar y môr mewn dyfroedd dyfnach.
Bydd hefyd yn "ysgogi momentwm cynnar mewn adnewyddu diwydiannol a thwf rhanbarthol, a chefnogi datblygiad diwydiannau'r dyfodol."
Dywedodd Scott Harper, Prif Weithredwr Cierco Energy: "Mae sicrhau Caniatâd Adran 36 yn gyflawniad gwych i Llŷr ac i Gymru.
“Fel un o brosiectau profi a dangos ynni gwynt ar y môr cyntaf y Môr Celtaidd, bydd Llŷr yn helpu i osod De-orllewin Cymru fel canolfan fyd-eang ar gyfer arloesi ym maes ynni gwynt ar y môr, peirianneg uwch ac arbenigedd ynni glân.
"Mae'r prosiect hwn nid yn unig yn cyflymu pontio Cymru i ynni adnewyddadwy, ond hefyd yn creu cyfleoedd i fusnesau lleol, porthladdoedd, prifysgolion a'r gadwyn gyflenwi ehangach - gan feithrin y galluoedd sydd eu hangen ar gyfer y defnyddiau ar raddfa fawr yn y dyfodol a thwf rhyngwladol."
Y bwriad yw cynhyrchu'r pŵer cyntaf o Fferm Wynt Llŷr yn 2031.