Cwest: Mab Mark Hughes wedi marw o ganlyniad i nam ar ei galon

Alex Hughes
Alex Hughes

Mae cwest wedi clywed fod mab cyn-chwaraewr a rheolwr Cymru, Mark Hughes, wedi marw o ganlyniad i nam ar ei galon.

Roedd Alex Hughes, 38 oed, yn bennaeth recriwtio chwaraewyr clwb Grimsby Town, ar ôl gweithio mewn rolau tebyg yn flaenorol gyda chlybiau gan gynnwys Manchester City, Fulham, Blackburn a 1860 Munich.

Clywodd cwest yn Sir Gaer fod mab Mr Hughes wedi’i ddarganfod wedi llewygu yn ystafell wely ei gartref ym Macclesfield ar 19 Mehefin.

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon i’w achub, bu farw Mr Hughes yn y fan a'r lle.

Daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad ei fod wedi marw o ganlyniad i syndrom marwolaeth arhythmig sydyn (SADS), gan nad oedd tystiolaeth fod ganddo unrhyw gyflwr a allai fod wedi arwain at ei farwolaeth. 

Mae SADS yn effeithio ar tua 500 o bobl yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon.

Mae'r syndrom yn disgrifio achosion pan fydd rhywun yn marw'n sydyn ac yn annisgwyl o ataliad ar y galon. 

Gall yr ysgogiadau trydanol yn y galon fynd o chwith ac achosi i'r galon i guro mewn ffordd anarferol, sy'n gallu achosi ataliad y galon.

'Bydd yn cael ei golli'n fawr'

Fe wnaeth ei dad Mark Hughes, a fu’n rheoli Cymru rhwng 1999 a 2004, roi teyrnged i'w fab ym mis Mehefin.

"Mae Jill a minnau yn dorcalonnus tu hwnt ar ôl colli ein mab annwyl Alex mor sydyn ac annisgwyl," meddai.

"Roedd Alex yn fab arbennig, yn frawd i Curtis a Xenna, ac yn ŵr a thad ymroddgar i Jessica a’u dau blentyn hyfryd, Sebastian a Leonardo.

"Roedd Alex yn bennaeth recriwtio chwaraewyr yng Nghlwb Pêl-droed Grimsby Town, ac roedd ganddo nifer o ffrindiau a chydweithwyr da. 

"Bydd yn cael ei golli'n fawr gan bob un ohonom."

Cafodd Mr Hughes yrfa fer fel chwaraewr gyda Stockport a Wrecsam cyn ymuno â Blackburn yn 2007, lle bu’n gweithio fel dadansoddwr perfformiad.

Fe ymunodd wedyn â’i dad ym Manchester City yn 2008, cyn gweithio gydag ef eto yn Fulham. 

Yn ddiweddarach, fe aeth ati i ddatblygu ei yrfa ei hun dramor.

Fe ymunodd â Grimsby Town yn 2025.

Llun: Grimsby Town

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.