Sir Gâr: Diffoddwr tân yn ennill pencampwriaeth seiclo genedlaethol

Sion Jones - seiclo

Mae diffoddwr tân o Sir Gâr wedi ennill pencampwriaeth seiclo genedlaethol.

Fe wnaeth Siôn Jones, sydd yn rhan o griw Gorsaf Tân Y Tymbl, gipio teitl Pencampwr Dynion ym Mhencampwriaeth Ras yn Erbyn y Cloc Cymru 2026.

Fe lwyddodd Mr Jones, sy'n 20 oed, i gwblhau’r cwrs 10 milltir yn Llanfaches, ger Casnewydd, yn yr amser cyflymaf, sef 20 munud a 12 eiliad.

Mae Siôn wedi bod yn seiclo ers yr oedd yn bedair oed, gan ddechrau rasio yn 16 oed.

Image
Sion Jones seiclo
Sion Jones, aelod o griw Gorsaf Dân Y Tymbl (Llun: Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Mae llwyddiant Siôn yn adlewyrchu yr agwedd penderfynol a’r ymrwymiad mae’n cynnig i’w rôl yng Ngorsaf Dân Y Tymbl, ble mae’n parhau i ddatblygu ei sgiliau fel diffoddwr tân tra’n cystaldu ar lefel uchaf seiclo yng Nghymru.”

Fe ymunodd â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fel diffoddwr tân ar alw ym mis Hydref 2025 ac mae nawr yn ystyried gyrfa fel aelod llawn amser o’r criw.

Dywedodd Siôn: “Dw i wir yn mwynhau’r profiad ac yn dysgu sgiliau newydd bob dydd.

“Nid oes unrhyw ddau ddigwyddiad byth yr un fath a'r rhannau gorau am y rôl yw'r bobl rydw i'n cael gweithio gyda nhw a bod yn rhan o dîm agos.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.