'Digon 'di digon': Diwylliant a chwaraeon Cymru mewn 'sefyllfa argyfyngus'
'Digon 'di digon': Diwylliant a chwaraeon Cymru mewn 'sefyllfa argyfyngus'
Mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Ddiwylliant a Chwaraeon wedi dweud fod y ddau faes mewn “sefyllfa argyfyngus”, wrth i Lywodraeth Cymru lansio sgwrs gyda'r bwriad o greu strategaeth diwylliant newydd i Gymru.
Yn ôl y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan AS, bydd y strategaeth yn “cyfuno chwaraeon a’r diwydiannau creadigol - pethau oedd ar goll o’r strategaeth flaenorol.”
Wrth ymateb i honiadau fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ymgynghoriad ar ôl ymgynghoriad heb weithredu, dywedodd Heledd Fychan fod “angen gwneud y ddau.”
Ychwanegodd fod angen “gwneud y cynllunio hir dymor doedd Llafur ddim yn ei wneud a dyna pam yr ydyn ni mewn sefyllfa mor argyfyngus o ran diwylliant a chwaraeon yng Nghymru.
“Yr hyn rydyn ni wedi ei weld dros y ddegawd diwethaf ‘ma ydy llai o gyfleoedd i bobl i ymgysylltu efo diwylliant a chwaraeon - gweld pethau fel pyllau nofio lleol yn cau, llyfrgelloedd lleol yn cau."
Ychwanegodd: “Digon ‘di digon, ‘da ni angen gweld dyfodol i’r math yma o bethau pwysig yn ein cymunedau ni.”
Amgueddfa Cymru
Wrth siarad gyda Newyddion S4C am sefyllfa Amgueddfa Cymru, dywedodd mai’r dasg oedd i gydweithio gydag Amgueddfa Cymru i ddeall union effaith y toriadau ar y sefydliad.
Cyhoeddodd Amgueddfa Cymru'r posibilrwydd y bydd yn rhaid iddynt gau ei safle yng Nghaerdydd am hyd at bedair blynedd er mwyn neud gwelliannau i’r adeilad.
Dywedodd y Gweinidog fod gan Amgueddfa Cymru "rôl allweddol bwysig o ran gwarchod ein casgliadau cenedlaethol ni - nid eu casgliadau nhw ‘mo honnyn nhw, pobl Cymru bia’r casgliadau hynny.
“Os ydyn nhw rŵan mewn adeiladau sydd ddim yn addas i bwrpas, lle mae ‘na risg i’r casgliadau cenedlaethol, yna mae ‘na gyfrifoldeb arnan ni fel Llywodraeth i gydweithio efo nhw a sicrhau ein bod ni’n deall be ‘di’r heriau a sut ‘da ni yn mynd i gael datrysiadau.”
Mae Llafur Cymru wedi derbyn cais am ymateb.