Rebecca Thomas yn cipio Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod y Garreg Las

Rebecca Thomas 01.jpg

Rebecca Thomas sydd wedi cipio Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod y Garreg Las eleni, am ei nofel Ynys Gwales.

Derbyniodd y wobr mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn bnawn dydd Mawrth. 

Cafodd Rebecca Thomas ei haddysgu yn Ysgol y Wern ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, cyn mynd ymlaen i astudio hanes ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Hanesydd yw hi wrth ei gwaith.

Tasg y naw a ymgeisiodd oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

Y beirniaid eleni oedd Meinir Wyn Edwards, Llwyd Owen a Lleucu Roberts.

'Nofel uchelgeisiol'

Wrth draddodi o’r llwyfan, dywedodd Meinir Wyn Edwards: “Dyma nofel uchelgeisiol sy’n rhoi gwedd newydd ar ail gainc y Mabinogi. Mae Ynys Gwales yn hawlio’n sylw o’r dechrau. 

"Hanes Llŷr a’i deulu o bysgotwyr sydd yma, a Morfudd, ceidwad Ynys Gwales, ac ar ddechrau’r nofel daw’r saith milwr a oroesodd y brwydro yn Iwerddon dan arweiniad Bendigeidfran i dafarn Moelros i chwilio am yr ynys, gan gludo pen y cawr gyda nhw. 

“Mae’r sgwennu’n llifo, a’r awdur yn feistr ar adrodd stori fywiog ac ennyn chwilfrydedd y darllenydd. Mae yma ddychymyg byw ar waith ac mae Ynys Gwales wedi ein cyffroi ni’n tri.

“Llongyfarchiadau i’r awdur ar lunio nofel hudol, emosiynol, sydd wedi gwneud i ni ryfeddu at ei ddawn dweud, ac sy’n aros yn y cof. 

"Rydyn ni’n tri’n gytûn bod Ynys Gwales gan Drycin yn llwyr haeddu Gwobr Goffa Daniel Owen 2026.”

Ailgydiodd Rebecca Thomas mewn ysgrifennu creadigol ar ôl cwblhau ei doethuriaeth yn 2019, gan gyhoeddi ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, Dan Gysgod y Frenhines yn 2022), a’i hysgrif gyntaf, ‘Cribo’r Dragon’s Back’, a oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth ysgrif O’r Pedwar Gwynt (2021).

Aeth ymlaen i gyhoeddi nofel hanesyddol arall i oedolion ifanc, Y Castell ar y Dŵr yn 2023, a dwy nofel i blant, Anturiaethau’r Brenin Arthur ac Anturiaethau’r Afanc, yn ei rol fel awdur preswyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. 

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i oedolion, Y Tŵr, gan Sebra yn 2025.

Mae wrth ei bodd yn mynychu cyrsiau ysgrifennu a thrafod syniadau gyda’i chyd-awduron. 

Yn haf 2025 treuliodd gyfnod fel artist preswyl ar Ynys Enlli, lle ysgrifennodd Ynys Gwales.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.