Cwnstabl Heddlu'r Gogledd wedi rhannu gwybodaeth sensitif gyda'r cyhoedd
Mae panel camymddwyn wedi clywed bod cwnstabl Heddlu Gogledd Cymru wedi rhannu gwybodaeth sensitif gydag aelodau’r cyhoedd, gan gynnwys manylion cyrch oedd wedi’i drefnu.
Roedd PC Gillian Davies wedi camddefnyddio gwybodaeth yr heddlu sawl tro rhwng 2017 a 2024.
Mewn un enghraifft o dorri safonau ymddygiad proffesiynol, fe wnaeth Ms Davies roi gwybod i aelod o’r cyhoedd ynglŷn â dyddiad y byddai gwarant yn cael ei weithredu.
Fe ddywedodd wrth unigolyn arall bod yr heddlu eisiau ei arestio, ac ar un achlysur fe wnaeth hi gael mynediad at gofnodion yr heddlu a’u trosglwyddo dros rif ffôn symudol.
Clywodd y gwrandawiad, ym mhencadlys y llu ym Mae Colwyn nad oedd “unrhyw awgrym” bod y swyddog wedi gwneud elw personol neu ariannol, ond ei fod yn “ddefnydd anaddas ac annoeth” o systemau’r heddlu.
Fe wnaeth y Cwnstabl Davies hefyd ddefnyddio cofnodion at ddibenion nad oeddent yn ymwneud â gwaith yr heddlu, gan chwilio am gyfeiriadau ei chymdogion ac ymchwilio i gyn-bartner.
Fe wnaeth hi ymddiswyddo ym mis Gorffennaf wedi 18 mlynedd o wasanaeth, mewn gyrfa ble y cafodd ei chymeradwyo ddwywaith.
Ni wnaeth PC Davies fynychu’r gwrandawiad ac ni chafodd ei chynrychioli, ond fe wnaeth sawl geirda a gafodd eu rhannu gyda’r panel ei disgrifio fel person “trwyadl”, “rhagweithiol” ac yn “gefn i gydweithwyr.
Dywedodd cadeirydd y panel, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Chris Allsop, fod Cwnstabl Davies wedi’i chymeradwyo ar un achlysur am ei bod yn "rhagorol wrth sicrhau cudd-wybodaeth ar lefel leol a ddefnyddir i dargedu troseddwyr".
Dywedodd: “Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n arbennig o berthnasol yn yr achos hwn, yn enwedig gan fod naïfrwydd yn rhywbeth sy’n rhedeg drwy’r achos cyfan. Y ffordd y cafodd y wybodaeth honno ei thrin yw’r mater sydd wrth wraidd yr achos drwyddo draw.”
Ychwanegodd Mr Allsop: "Mae'r achos hwn yn achosi math sylweddol o niwed, sef yr effaith andwyol ar hyder y cyhoedd mewn plismona.
"Mae'r cyhoedd yn disgwyl y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn trin eu gwybodaeth yn ddiogel ac yn broffesiynol."
Dyfarnodd y panel pe na bai'r cyn-swyddog wedi ymddiswyddo y byddai wedi cael ei diswyddo heb rybudd am gamymddwyn difrifol.
Bydd ei henw yn cael ei ychwanegu at restr waharddedig Coleg y Plismona.