Hanner canrif o Fedal TH Parry-Williams: Y ferch a redodd â’r fedal gyntaf adref at ei mam-gu
Mae Meryl Tegryn Davies wedi bod yn cofio’r foment y cafodd hi, yn blentyn, y dasg o redeg â Medal TH Parry-Williams gyntaf o Faes yr Eisteddfod i’w mam-gu hanner canrif yn ôl.
Roedd Meryl ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976 pan ofynnodd Llywydd Llys yr Eisteddfod, yr Athro Idris Foster, iddi ofalu am fedal arbennig.
O flaen cynulleidfa o 6,000 o bobl, gofynnodd iddi redeg â’r fedal i gartref ei mam-gu, Mrs Lydia May Tegryn Davies, a dweud wrthi am ddisgwyl ymwelwyr pwysig yn ddiweddarach.
Mrs Tegryn Davies oedd y person cyntaf i dderbyn Medal TH Parry-Williams, a sefydlwyd yn dilyn marwolaeth y llenor a’r bardd y flwyddyn cynt.
Mae’r fedal yn cael ei chyflwyno i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig yn eu hardal leol, gyda phwyslais ar weithio gyda phobl ifanc.
Nid oedd iechyd Mrs Tegryn Davies yn caniatáu iddi fod yn y seremoni, ac felly cafodd ei chynrychioli gan ei mab, Alun, ei wraig, Sandra, a’i hwyrion, Huw a Meryl.
Wrth gofio’r achlysur, dywedodd Meryl: “Roedden ni’n byw rhyw filltir o fferm Penlan, sef safle’r Maes adeg yr Eisteddfod, sydd ar dop tre Aberteifi.
“Lawr y rhiw, troi i’r dde wrth y cae chwarae ac yna i’r chwith a chyrraedd Cnwc-y-dintir lle roedden ni’n byw, a Mam-gu’n byw gyda ni.”
Dywedodd fod ei mam-gu wrth ei bodd â’r fedal.
“Roedd yr un mor hapus i groesawu’r gwesteion i’r tŷ, roedd yn ystyried derbyn y fedal yn anrhydedd mawr,” meddai.
Roedd Huw, brawd hŷn Meryl, ar y llwyfan hefyd.
“Rwy’n cofio edrych ar y fedal a rhedeg fy mys o’i hamgylch a darllen y geiriau arni a gwybod fod Mam-gu a Tad-cu wedi gweithio’n galed gyda’i gilydd am flynyddoedd yn Aberporth.
“Pobl y Pethe oedden nhw, ac roedd Eisteddfod Aberteifi yn gyfnod prysur iawn, llawn bwrlwm ond hapus iawn i ni fel teulu,” meddai.
Oes o wasanaeth
Roedd Mrs Tegryn Davies yn wreiddiol o Landŵr, ger Crymych, lle bu’n gweithio yn siop y teulu cyn priodi.
Gyda’i gŵr, y Parch Thomas Tegryn Davies, cynhaliodd ddosbarthiadau llenyddiaeth a cherddoriaeth ym Meulah a Bryn-mair, ac yn adran ac aelwyd yr Urdd yn Aberporth.
Trefnodd ei dosbarth Tonic Sol-ffa cyntaf yn 1936, a bu cenedlaethau o blant yn mynychu ei gwersi.
Cafodd ei phenodi’n Ynad Heddwch a daeth sawl anrhydedd arall i’w rhan.
Bu’n Llywydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru yn 1962, yn feirniad yn adran Cerdd Dant Eisteddfod Genedlaethol Aberafan a’r Cylch yn 1965 ac yn Is-lywydd Urdd Gobaith Cymru yn 1969.
Hi hefyd oedd Llywydd Anrhydeddus Eisteddfod y Dathlu Aberteifi a’r Cylch yn 1976.
Roedd ganddi gysylltiad agos â’r Prifardd Dic Jones, a gyfansoddodd gywydd arbennig i ddathlu’r fedal.
Roedd Dic Jones yn ei arddegau cynnar pan sefydlodd y Parch a Mrs Davies yr aelwyd yn ardal Aberporth. Yno y cafodd ei brofiad cyntaf o’r gynghanedd, wrth ganu awdl Gwilym Tilsley, ‘Y Glöwr’, fel aelod o gôr cerdd dant.
Hyd at ei marwolaeth ym mis Tachwedd 1980, mynnodd Mrs Davies fod yr anrhydedd yn cydnabod gwasanaeth ei gŵr yn ogystal â’i chyfraniad hithau.
Bydd rhai o gyn-enillwyr Medal TH Parry-Williams yn cael eu hanrhydeddu mewn derbyniad arbennig yng Nghymdeithasau 2 am 14.30 ddydd Mawrth, i nodi 50 mlynedd ers cyflwyno’r fedal am y tro cyntaf