Tafod Glas: Annog ffermwyr i wirio am symptomau wrth i achosion gynyddu
Mae ffermwyr wedi eu hannog i wirio am symptomau o’r Tafod Glas (BTV-3), wrth i achosion barhau i gynyddu yng Nghymru a Lloegr.
Ers Gorffennaf 1, mae tri achos o'r haint wedi’u cadarnhau yng Nghymru. Yn Lloegr mae 81 achos wedi’u cadarnhau, gyda rhai achosion yn agos i’r ffin yn Sir Caer, Gwlad yr Haf a Dyfnaint.
Gall da byw symud yn rhydd rhwng Cymru a Lloegr ers i'r Parth Cyfyngedig Cymru Gyfan gael ei sefydlu ym mis Tachwedd 2025. Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar amaethwyr i wirio statws Tafod Glas anifeiliaid cyn prynu neu symud da byw.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine: "Rydyn ni bellach yn y cyfnod trosglwyddo gweithredol ar gyfer y Tafod Glas, ac mae rhagor o achosion o BTV-3 mewn gwartheg a defaid yn dod i'r amlwg mewn gwahanol rannau o Gymru, yn ogystal ag yn Lloegr, yn enwedig siroedd y de-orllewin.
"Mae prynu da byw o ffynonellau diogel yn hanfodol. Cynghorir ceidwaid i ystyried statws Tafod Glas da byw newydd, fel nad ydych yn prynu rhywbeth annymunol.
"Mae'n parhau i fod yn bwysig i geidwaid da byw siarad â'u milfeddyg ac ystyried brechu rhag y Tafod Glas, gan mai dyma'r ffordd orau o amddiffyn buchesi a diadelloedd rhag effeithiau'r clefyd.
“Byddwch ar eich gwyliadwriaeth am arwyddion o'r Tafod Glas a rhoi gwybod i APHA yn brydlon am unrhyw achosion posibl."
Mae ffermwyr wedi’u hannog i wirio am arwyddion o'r Tafod Glas ac i roi gwybod am unrhyw achosion posibl i Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Maent hefyd yn cael eu hannog i ystyried brechu.