Aur i dîm seiclo merched Cymru

Seiclo merched Cymru

Mae tîm seiclo merched Cymru wedi ennill medal aur yn y ras wib yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow.

Fe wnaeth y tîm oedd yn cynnwys Emma Finucane, Lowri Thomas a Rhian Edmunds guro Lloegr o 0.141 eiliad dros dair lap o’r trac o Felodrom Syr Chris Hoy.

Roedd Lloegr ar y blaen wrth arwain i mewn i'r ail lap ond fe ddaeth y Cymry nôl i gipio'r fuddugoliaeth a sefydlu record i gemau’r Gymanwlad o 46.76.

Yn gynharach roedd y para-seiclwr James Ball wedi ennill medal arian yn y ras tandem 1,000m yn erbyn y cloc, gyda'i beilot Matt Rotherham.

Fe wnaeth Cymru hefyd ennill medal efydd ar y trac seiclo yn y ras cwrso tîm, gyda Megan Barker, Jessica Roberts, Anna Morris a Ciara Oliva yn curo Lloegr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.