Cymru'n ymuno â gwledydd UEFA i foicotio Cwpanau'r Byd os yw cynlluniau FIFA yn cael eu cymeradwyo

Sbaen yn ennill Cwpan y Byd

Mae 55 o gymdeithasau aelod pêl-droed Ewrop, gan gynnwys Cymru, wedi pleidleisio i foicotio Cwpanau'r Byd os bydd corff llywodraethu'r gamp yn bwrw ymlaen â chynllun i werthu cyfranddaliadau yn ei gystadlaethau i fuddsoddwyr preifat.

Cafodd y penderfyniad ei wneud mewn cyfarfod brys a alwyd i drafod y cynnig a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon gan FIFA, sy'n goruchwylio pêl-droed y byd.

Roedd UEFA, sy'n llywodraethu pêl-droed Ewrop, eisoes wedi mynegi ei wrthwynebiad yn glir drwy ryddhau dau ddatganiad llym – ac mae'r teimlad cryf hwnnw wedi'i gadarnhau unwaith eto.

Dywedodd UEFA: "Ni ellir trin Cwpan y Byd fel cynnyrch buddsoddi.

"Mae'n un o etifeddiaethau chwaraeon mwyaf pêl-droed. 

"Mae wedi'i adeiladu dros genedlaethau gan chwaraewyr, timau cenedlaethol a chefnogwyr ar draws pob cyfandir. 

"Ni ddylid byth ildio unrhyw ran ohono i fuddsoddwyr preifat. 

"Nid yw Cwpan y Byd ar werth."

Byddai boicot UEFA yn cwmpasu holl gystadlaethau FIFA, gan gynnwys Cwpanau'r Byd i ddynion a menywod a Chwpan y Byd i Glybiau, a byddai'n cael ei sbarduno os bydd y cymdeithasau aelod yn pleidleisio o blaid cynigion Infantino.

Y tro cyntaf i'r safiad hwn gael ei brofi mewn twrnamaint uwch fydd ym mis Hydref, pan mae gemau ail gyfle Cwpan y Byd y Menywod i fod i gael eu cynnal.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.