Newyddion S4C

Cuddfan adar 'wedi ei rhoi ar dân' yng Nghaernarfon

15/09/2021
S4C

Mae'r Tîm Trosedd Cefn Gwlad a'r RSPCA yn apelio am wybodaeth ar ôl i guddfan gwylio adar yng Nghaernarfon fynd ar dân. 

Cafodd cuddfan adar y Foryd yn Saron, sy'n edrych dros Ddinas Dinlle, ei difrodi'n sylweddol yn y tân, ac mae swyddogion yn ei drin fel tân bwriadol.

Digwyddodd y tân rywbryd rhwng dydd Sul, 5 Medi a dydd Sul, 12 Medi.

Mae’r heddlu’n annog unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101, neu drwy'r wefan, gan ddefnyddio'r cyfeirnod Z135264.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.