Pedair menyw yn cyhuddo'r actor Jared Leto o ymddygiad rhywiol troseddol
Mae pedair menyw wedi cyhuddo'r actor a'r canwr Jared Leto o ymddygiad rhywiol troseddol mewn rhaglen ddogfen gan y BBC.
Maen nhw'n honni bod y troseddau wedi digwydd pan oedden nhw yn eu harddegau.
Yn ôl un fenyw fe gafodd ei ymosod yn rhywiol pan oedd hi mewn motel ac yn 17 oed.
Mae un arall yn honni bod Leto wedi bygwth ymosod yn rhywiol arni pan oedd yn 19 oed. Roedd hi wedi cael ei gadael ar ei phen ei hun gyda'r actor Hollywood mewn ystafell westy.
Mae trydedd menyw yn honni iddi gael rhyw â'r seren yng Nghaliffornia pan oedd yn 17 oed. Byddai hyn yn cael ei gyfri fel treisio swyddogol. Mae'n dweud i Leto "ddiystyru" sgwrs ynghylch y ffaith mai 18 oed yw oedran cydsynio yn nhalaith Califfornia.
Mae'r bedwaredd fenyw yn honni iddi gael ei meithrin (groomio) gan Leto.
Fe wnaeth yr actor gamddefnyddio ei statws fel person enwog drwy wneud galwadau ffôn rhywiol ati sawl gwaith pan oedd hi yn 16 oed meddai. Mae'n dweud ei fod o ar o leiaf un achlysur wedi awgrymu y dylen nhw gael rhyw.
Yn dilyn hyn, fe anfonwyd cytundeb peidio â datgelu (NDA) ati er mwyn ei hatal rhag siarad am ei pherthynas â Leto. Fe wrthododd hi ei lofnodi.
Mae pedair menyw arall hefyd yn honni iddynt dderbyn galwadau ffôn rhyfedd, ac yn aml o natur rywiol eglur, gan Leto pan oeddent yn iau.
Mae'r BBC wedi siarad â 10 o fenywod ar gyfer y rhaglen ddogfen gyda naw ohonyn nhw yn siarad am y tro cyntaf.
Fe ddaethon nhw i gysylltiad gyda Leto rhwng 2002 a 2016 meddai'r menywod i gyd. Mi fyddai Leto wedi bod yn ei 30au a'i 40au ar y pryd.
Mae'r BBC yn dweud eu bod nhw wedi ceisio cysylltu sawl gwaith gyda Leto ond dydy o ddim wedi ymateb i'r honiadau sydd wedi'u gwneud yn ei erbyn.
Llun: Reuters
