Dyn 57 oed yn euog o geisio llofruddio menyw mewn parc yng Nghaerfyrddin
Mae dyn 57 oed wedi ei gael yn euog o geisio llofruddio menyw mewn parc yng Nghaerfyrddin ym mis Ionawr.
Fe wnaeth James McKenna bledio'n euog yn flaenorol i fod â llafn yn ei feddiant mewn man cyhoeddus ac anafu gyda bwriad, ond roedd yn gwadu ei fod wedi ceisio llofruddio wedi iddo drywanu ei gyn-bartner ym Mharc Caerfyrddin.
Fe dderbyniodd yr heddlu adroddiad fod dyn wedi trywanu menyw sawl gwaith am tua 16:00 ar 29 Ionawr.
Fe wnaeth McKenna ffoi o'r digwyddiad, ac fe wnaeth yr heddlu lansio ymgyrch chwilio eang er mwyn dod o hyd iddo a'i arestio.
Fe gafodd McKenna ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar 2 Chwefror yn Aberystwyth.
Cafodd ei gyhuddo yn ddiweddarach a'i gadw yn y ddalfa.
Ddydd Llun, fe wnaeth y rheithgor ddyfarnu fod McKenna yn euog o geisio llofruddio, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 2 Medi.
Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Sian Davies: “Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth yn ystod cyfnod hynod o ofidus i bobl Caerfyrddin, a thu hwnt.
"Mae digwyddiadau o'r natur yma yn hynod o brin yn ein hardal ni, ac rydym yn parhau wedi ein hymrwymo i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod.
"Fe wnaeth gweithredoedd James McKenna y diwrnod hwnnw ddangos y lefel syfrdanol o drais a oedd wedi’i gynllunio o flaen llaw a allai fod wedi arwain yn hawdd at farwolaeth y dioddefwr.
"Dwi'n estyn fy niolch i’r rheithgor am eu dyfarniad yn yr achos hwn.
"Dwi'n gobeithio y bydd canlyniad heddiw yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r dioddefwr wrth iddi ddechrau symud ymlaen â’i bywyd."