'Braint anhygoel' cael ysgrifennu cân ar gyfer lansiad y Cymru Premier ar ei newydd wedd
Mae'r cerddor Ifan Pritchard yn dweud ei bod yn "fraint anhygoel" derbyn gwahoddiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i ysgrifennu cân ar gyfer lansiad y Cymru Premier ar ei newydd wedd.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd prif leisydd y band Gwilym ei fod yn "golygu lot" i gyfuno cerddoriaeth a phêl-droed, dau beth sydd yn agos iawn at ei galon.
Gan alw ei hun Y Canol Cae, mae Ifan wedi ysgrifennu a chanu'r gân 'Gorau Chwarae Cyd Chwarae', a fydd yn cael ei chwarae yn stadiymau 16 o dimau y Cymru Premier eleni.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ailfrandio'r gynghrair eleni, gan gynyddu nifer y timau o 12 i 16 ac wedi buddsoddi £6 miliwn dros gyfnod o bedair blynedd er mwyn gwella safon ar ac oddi ar y cae.
Gobaith Ifan Pritchard yw bod ei gyfraniad yn gallu bod yn ffactor wrth ddenu mwy o bobl i wylio gemau'r gynghrair.
“Mae o yn eitha’ od achos, dau o’n hoff betha’ fi ydi creu cerddoriaeth a gwylio pêl-droed.
“Felly o’dd cael cyfuno’r ddau hobi os lici di yn fraint, nid yn unig hynny, ond i neud o ar gyfer yr FAW, mae o yn golygu lot.
“Mae’n eitha neis meddwl am y ffaith bo’ ‘na gymuned yn amrywio o’i gwmpas o, felly mae’n fraint anhygoel.
“Mae o’n rancio eitha’ uchel yn sicr achos dim bob dydd ti’n cael email gan dy arwyr di, sydd yn cynrychioli dy dîm cenedlaethol, ac mae cael cynrychioli y gynghrair hefyd yn eitha cŵl.
“So os allai fod yn rhan o symudiad sydd yn denu bobl ifanc tuag at y gynghrair, i greu cymuned hollol newydd sydd yn mynd i symud y gynghrair yn ei flaen a bod yn fwy poblogaidd, fyddai’n hapus.”
Un peth sydd yn ganolog i strategaeth newydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer y Cymru Premier ydy cynyddu nifer y cefnogwyr mewn gemau.
Roedd cyfanswm o 91,356 o gefnogwyr wedi gwylio gemau'r gynghrair yn 2025, sef record newydd ar gyfer cynghrair gyda 12 o dimau.
Roedd hynny'n gynnydd o 19% ar y 76,355 o gefnogwyr yn 2024.
Er bod Ifan yn cefnogi Wrecsam, sydd yn cystadlu yn y Bencampwriaeth yng nghynghreiriau Lloegr, mae'n gobeithio mynd i gemau yn y Cymru Premier eleni.
“Ma rhaid fi ddeud, dio’m yn rhywbath dwi ‘di bod yn gwylio lot yn ddiweddar, ond ma’ gweld lot o’n ffrindiau i yn mynd i watshad Caernarfon, dechrau dilyn y gynghrair, mae'n rhywbeth eitha’ cyffrous i fi, er does genna' i ddim tîm yn y gynghrair," meddai.
“'Dan ni’n byw mewn byd ar y funud lle mae bob dim o ran chwaraeon a’r campau yn cael eu bwydo i ni trwy social media.
“So yn amlwg dwi wedi gweld lot am y Bencampwriaeth a’r Premier League yn enwedig, ond be dwi’n gobeithio wan ydi, bydd na lot o bobl ifanc yn cymryd mantais bod y gynghrair yng Nghymru yn tyfu.
“Dwi’m yn gwybod pam bod ni fel pobl ifanc ddim yn cymryd mantais o’r ffaith bod timoedd lleol yn chwara’ am yn rhad, yn gallu mynd i watshad gemau a chreu cymuned fe ‘dan ni’n neud efo’r tîm cenedlaethol."
'Hollol wahanol'
Fe benderfynodd Ifan gynhyrchu'r gân dan yr enw 'Y Canol Cae' yn hytrach na dan ei enw ei hun neu ei fand, Gwilym.
Penderfynodd wneud hyn er mwyn creu "sŵn ac artistiaeth" wahanol i'r hyn mae'n ei wneud yn unigol a hefyd gyda'i fand.
“Dwi ‘di cymryd o fewn i ystyriaeth achos ma' artistiaeth yn rhywbeth hollol od, yn enwedig yng Nghymru," meddai.
“Efo Gwilym mae o’n rhywbath hollol benodol, ti’n creu band a ma’ 'na fatha image a sŵn rownd y band.
“A os ti’n neud cynnyrch dy hun yn unigol, ti’n creu sŵn rownd hynna, ac mae artistiaeth rownd hynny.
“Felly nes i greu y pseudonym Y Canol Cae i hwn achos o’n i isho fo cynrychioli rhywbath hollol wahanol i’r ddau beth, neu’r ddau branch dwi di creu yn y byd cerddoriaeth.
“O’dd o’n eitha' neis gallu rhoi bob dim i un ochr o ran pretentiousness bod yn artist a jyst cynrychioli brand a sŵn ar gyfer symudiad fel y gynghrair yng Nghymru."