Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth dyn a fu farw yn 1991
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i'r amgylchiadau yn ymwneud â marwolaeth dyn 58 oed a fu farw ym 1991.
Fe wnaeth swyddogion arestio dyn 67 oed o ardal Llanddewi Efelffre yn Sir Benfro ddydd Mercher ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae wedi'i ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu'n parhau â'u hymholiadau.
Dywedodd y llu yn dilyn yr arestiad hwn, nid ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r mater, ac mae'r ymchwiliad yn parhau.
Bu farw Bentley Mathias, a oedd yn 58 oed ar y pryd, ar 19 Tachwedd 1991 yn Ysbyty Treforys.
Cofnodwyd mai gwaedlif ar yr ymennydd oedd achos y farwolaeth.
Ychwanegodd Heddlu Dyfed-Powys: “Ni chafodd y farwolaeth ei thrin fel un amheus ar y pryd; fodd bynnag, yn dilyn dod o hyd i dystiolaeth bosibl newydd, mae'r mater yn cael ei ymchwilio fel achos llofruddiaeth."
