‘Anrhydedd o’r mwyaf’: Y gyflwynwraig Nia Thomas yn derbyn Gwobr Goffa Bob Davies

‘Anrhydedd o’r mwyaf’: Y gyflwynwraig Nia Thomas yn derbyn Gwobr Goffa Bob Davies

Mae’r newyddiadurwr a’r cyflwynydd radio a theledu Nia Thomas wedi derbyn Gwobr Goffa Bob Davies am ei chyfraniad at godi proffil amaethyddiaeth ar y cyfryngau torfol yng Nghymru.

Cafodd y wobr ei chyflwyno iddi yn ystod derbyniad Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn y Sioe Frenhinol nos Fercher.

Mae’r wobr flynyddol yn cael ei chyflwyno er cof am Bob Davies, a fu’n ohebydd amaethyddol uchel ei barch i’r Farmers Weekly yng Nghymru.

Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Am ddegawdau, mae Nia wedi bod yn un o leisiau newyddiadurol amlycaf Cymru wledig, gan adrodd yn deg ac yn drylwyr ar yr heriau sy’n wynebu ein ffermwyr a’n cymunedau gwledig.

“Mae hi wedi ennill parch am ei gallu i adrodd stori yn onest a chytbwys gan roi llais i ffermwyr Cymru tra’n barod hefyd i ofyn cwestiynau anodd.”

‘Sioc anferthol’

Wrth siarad â Newyddion S4C ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Nia Thomas: “Mae hon yn anrhydedd o’r mwyaf a sioc anferthol, a dweud y gwir.

“Dwi ’di bod mor ffodus ar hyd y blynyddoedd yn cael holi cyfoeth o bobl o’r byd amaeth, pobl sy’n teimlo mor danbaid am ddyfodol y diwydiant.”

Dywedodd mai ei rôl hi fel newyddiadurwr oedd rhoi llwyfan i’r lleisiau hynny mewn ffordd deg a chytbwys, ond hefyd bod yn barod i ofyn cwestiynau heriol.

“Mae ’na gymaint o wybodaeth anghywir, camarweiniol, celwyddog hyd yn oed yn cael ei gyhoeddi,” meddai.

Ychwanegodd ei bod yn bwysicach nag erioed i raglenni fel Ffermio ar S4C yn rhoi sylw cyfrifol i straeon amaethyddol.

“Ella mai ’ngwyneb i sy’n ymddangos ar y sgrin a’n llais i ar y radio, ond rhan o dîm ydw i.”

Cafodd Nia ei geni a’i magu ar fferm yn Llannerch-y-medd, Ynys Môn, a dechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwr dan hyfforddiant yn 1980.

Bu’n gweithio yn adran amaeth y BBC ac yn ohebydd ar y rhaglen amaethyddol Ar y Tir ar S4C, cyn cael ei phenodi’n Ohebydd Materion Gwledig BBC Cymru yn 2000.

Dychwelodd i ohebu ar amaethyddiaeth yn 2024 fel cyflwynydd newyddiadurol ar Ffermio.

Clwy’r Traed a’r Genau

Wrth edrych yn ôl ar straeon mwyaf cofiadwy ei gyrfa, dywedodd Nia na allai beidio â chrybwyll argyfwng clwy’r traed a’r genau yn 2001.

"Doedd hi ddim yn stori 'na'th bara diwrnod, wythnos na mis. Odd hi'n stori 'na'th bara am fisoedd," meddai.

"A chwalu cymunedau cefn gwlad, a deud y gwir. 

"A dw i'n meddwl falle am y tro cyntaf erioed mi wnaeth pobl sylweddoli pa mor bwysig oedd amaethyddiaeth, nid yn unig o ran ffermio, ond o ran yr economi cefn gwlad ehangach.

Mae hi hefyd yn cofio adrodd ar effeithiau trychineb Chernobyl a’r argyfwng BSE, gan ddweud bod heriau mawr yn parhau i wynebu’r diwydiant heddiw.

Hiwmor Cefn Gwlad

Ond un o’i hatgofion mwy ysgafn yw’r tro y credai ei bod wedi prynu tri bustach ym march Llanrwst yn y 90au.

Roedd Nia yn ffilmio ar gyfer Ar y Tir ac wedi mynd i’r cylch arwerthu i geisio holi ffermwr oedd wedi prynu gwartheg.

Wrth iddi geisio denu ei sylw, cyhoeddodd yr arwerthwr ei bod hi wedi cynnig £600 am y gwartheg.

Am rai eiliadau, roedd Nia yn credu ei bod wedi eu prynu ac yn poeni sut y byddai’n mynd â nhw adref.

Jôc oedd y cyfan, ond dywedodd fod pobl wedi parhau i ofyn iddi am fisoedd wedyn a oedd y gwartheg yn gwneud yn dda.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.