'Y strategaeth bresennol ddim yn gweithio’: Gweinidog Amaeth am geisio dileu TB cyn 2041

'Y strategaeth bresennol ddim yn gweithio’: Gweinidog Amaeth am geisio dileu TB cyn 2041

Mae Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi dweud nad yw strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaredu TB buchol yn gweithio.

Daw sylwadau Llyr Gruffydd AS ar ôl i ffigurau newydd gan Newyddion S4C ddangos bod Llywodraeth Cymru wedi talu £111.5m mewn iawndal am wartheg gafodd eu lladd oherwydd y clefyd dros bum mlynedd.

Y targed presennol yw i Gymru fod yn rhydd o TB erbyn 2041.

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C ar faes y Sioe Fawr ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gruffydd: “Dyw’r strategaeth bresennol ddim yn gweithio.

“Dyna pam ry’n ni wedi ymrwymo fel Llywodraeth newydd i ail-lunio’r strategaeth er mwyn mynd i’r afael â TB.

“Mae’r bwrdd sydd wedi cael ei sefydlu i gynghori’r Llywodraeth ar TB yn dweud bydd hi ymhell mewn i'r 2050au cyn i ni gyrraedd y pwynt yna.

“Felly, mae’r dystiolaeth yn glir. Dyw e ddim yn gweithio.”

Wrth gael ei holi a oedd y Llywodraeth yn parhau i anelu at gyrraedd y targed erbyn 2041, dywedodd y Gweinidog y byddai’n gwneud popeth posib i gyflymu’r broses.

“Mi wnawn ni droi pob carreg i gyrraedd y nod,” meddai.

“Dwi ddim isie hongian ambiti."

“Dyna yw’r targed presennol; y’n ni’n mhell ohono fe.

“Dw i isio dod â’r trajectory yn ôl yn nes at hynny os gallwn ni, ac yn gynt os yn bosib.”

Dywedodd Mr Gruffydd fod lefelau presennol y clefyd hefyd yn arwain at gostau sylweddol wrth i’r Llywodraeth dalu iawndal i ffermwyr am wartheg sy’n cael eu lladd.

“Mae hynny hefyd, wrth gwrs, yn dod â chost wedyn pan mae’n dod i dalu a digolledu ffermwyr am anifeiliaid sy’n cael eu difa ac yn y blaen,” meddai.

Amrywio 

Wrth drafod y strategaeth newydd, dywedodd Mr Gruffydd y gallai fod angen defnyddio dulliau gwahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, yn dibynnu ar lefelau’r clefyd.

“Bydden i’n dychmygu bod ’na fwy nag un ateb i’r broblem oherwydd mae’n dibynnu’n aml iawn ar yr amgylchiadau lleol,” meddai.

 “Os yw TB yn flaenllaw iawn mewn un ardal, yna mae ’na un math o ddatrysiad o bosib.

“Mewn ardaloedd eraill sy’n lân o TB, wel, mae ’na strategaeth wahanol i gadw e mas.”

“Felly, bydd e’n amrywio, fydden i’n dychmygu.”

Mae’r Llywodraeth yn aros am gyngor gan arbenigwyr cyn penderfynu ar fanylion y strategaeth newydd.

Dywedodd y Gweinidog ei fod yn gobeithio y daw y canfyddiadau o’r bwrdd ymgynghorol “o fewn y misoedd nesaf,” 

“Byddwn ni wedyn mewn sefyllfa i ymateb i hwn.”

Gan gyfeirio at effaith TB ar gymunedau gwledig, dywedodd y Gweinidog ei fod yn gyfarwydd â’r baich ariannol ac emosiynol sy’n wynebu ffermwyr a’u teuluoedd.

“Mae e’n gysgod tywyll dros deuluoedd a chymunedau cyfan.

“Mae’n rhaid i ni symud o fan’na cyn gynted ag y gallwn ni. A mae hwnna’n un ymrwymiad dw i’n rhoi i bobl Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.