Swm sylweddol o arian wedi ei ddwyn o fanc yn Aberhonddu
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i swm sylweddol o arian gael ei ddwyn o fanc y Nat West yn Aberhonddu, Powys yn ystod oriau mân fore dydd Llun, 20 Gorffennaf.
Daeth galwad am 01:15 yn nodi fod difrod i'r peiriant twll yn y wal yno, ac arian wedi ei gymryd o'r peiriant.
Y gred yw fod tua £55,000 wedi ei ddwyn.
Does neb wedi ei arestio.
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.