Athro o Gaernarfon yn cwblhau her o redeg 1km ar gyfer pob gôl yng Nghwpan y Byd

Matthew Roberts

Mae athro o Gaernarfon wedi cwblhau her o redeg 1km ar gyfer pob gôl yng Nghwpan y Byd.

Fe redodd Matthew Roberts 333km yn ystod y gystadleuaeth, sydd yn cyfateb i bron i wyth marathon.

Roedd ei her wedi dod i ben nos Lun wrth iddo gwblhau'r cilomedr olaf wedi'r rownd derfynol, lle enillodd Sbaen 1-0.

Penderfynodd Matthew godi arian i elusen Help Cymru, sydd yn cynnig cymorth i ddynion sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, wedi iddo ddioddef o broblemau tebyg ei hun.

Dywedodd wrth Newyddion S4C ei fod yn "hynod ddiolchgar i bawb" oedd wedi cefnogi ei her trwy gyfrannu neu rannu ei fideos ar-lein.

"Mae wedi bod yn brofiad anhygoel cwblhau’r Her Cwpan y Byd, mae’n anodd credu fy mod wedi codi dros £1,500 hyd yn hyn," meddai.

"Doeddwn i ddim yn disgwyl gweld cymaint o gefnogaeth gan deulu, ffrindiau, pobl leol a hyd yn oed pobl nad wyf erioed wedi’u cyfarfod.

"Mae pob neges, rhodd a gair o gefnogaeth wedi fy helpu i gyrraedd y llinell derfyn, ac rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi’r her."

Image
Matthew Roberts
Cafodd 172 o goliau eu sgorio yng Nghwpan y Byd Qatar yn 2022, nifer sylweddol is na'r cyfanswm eleni. Llun: Matthew Roberts

Ers iddo ddechrau rhedeg dair blynedd yn ôl, mae Matthew wedi bod yn rhedeg rhwng 5km a 10km yn rheolaidd, ac mae’n paratoi i gymryd rhan ym Marathon Eryri ym mis Hydref.

Yn ystod cyflawni'r her fe redodd Ras yr Wyddfa, sef 10 milltir i fyny copa'r Wyddfa ac yn ôl. 

Fe lwyddodd i gwblhau'r ras mewn 1 awr a 38 munud.

Trwy gydol yr her bu'n rhaid i Matthew redeg yn ystod amodau heriol, gan gynnwys tywydd poeth a rhai pellterau hir iawn ddiwrnod ar ôl diwrnod.

"Y gobaith drwy gydol yr her oedd codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl dynion a helpu i newid y stigma sy’n dal i fodoli.

"Dwi'n gobeithio bod yr her wedi annog pobl i siarad yn fwy agored am eu hiechyd meddwl ac i wirio sut mae’r bobl o’u cwmpas yn teimlo. 

"Roedd rhai o’r rhediadau’n heriol iawn, yn enwedig rhedeg 18km mewn gwres o bron i 30°C, ond un o uchafbwyntiau’r her oedd cwblhau Ras yr Wyddfa mewn amser o 1 awr a 38 munud. 

"Er bod yr her wedi dod i ben, gobeithio mai dim ond dechrau’r sgwrs am iechyd meddwl dynion yw hi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.