Gwasanaethau brys yn parhau i ymateb i danau gwair ar draws Cymru
Mae’r gwasanaethau brys yn parhau i ymateb i danau gwair mewn sawl ardal ar draws Cymru ddydd Mawrth.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod yn delio â thanau gwyllt mewn chwe ardal ar hyn o bryd.
Yn Sir y Fflint, lle mae’r nifer fwyaf o danau, mae criwiau’n ymateb i ddau ddigwyddiad - un ar Fynydd yr Hôb ger Caergwrle, ac un arall ym Mhentre Helygain.
Yn Sir Wrecsam gerllaw, mae diffoddwyr tân hefyd yn ymateb i dân ym Mount Pleasant, Brymbo.
Mae’r tân ar y mynydd uwchben Capelulo ger Bwlch Sychnant yn Sir Conwy yn parhau i gael ei reoli gan swyddogion, ar ôl i’r gwasanaeth tân ddatgan "digwyddiad mawr" yno dros wythnos yn ôl.
Ar Ynys Môn, mae criwiau wedi bod yn delio â thân ym Mhentrefelin, Caergybi, ers sawl diwrnod.
Yn ne Gwynedd, mae diffoddwyr tân yn parhau i ymateb i dân ar Fynyddoedd y Rhinogydd ger Harlech.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân: "Rydym yn gofyn i aelodau o’r cyhoedd osgoi’r ardaloedd hyn er mwyn galluogi timau brys i weithio’n ddiogel a sicrhau mynediad i gerbydau gweithredol.
"Os ydych chi’n cael eich effeithio gan fwg, ceisiwch aros y tu mewn a chadwch ffenestri a drysau ar gau."
Daw’r tanau wrth i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru barhau i ymateb i dân gwyllt "sylweddol" yn ardal Blaenafon yn Sir Torfaen, sy’n achosi mwg i effeithio ar ardal eang yn ne Cymru.
Dywedodd y gwasanaeth eu bod wedi derbyn nifer o alwadau am y mwg dros nos, gyda rhai adroddiadau wedi dod o mor bell â Chaerffili a Chaerdydd.
Cafodd y criwiau tân yr alwad gychwynnol am 20.42 nos Sul, ac fe ddywed y gwasanaeth fod y tân wedi lledaenu dros tua 80 hectar o dir rhedyn ac eithin.
Maent wedi rhybuddio nad yw’r amodau’n hawdd, oherwydd cyfeiriad y gwynt a natur y tirwedd.
Y newid yng nghyfeiriad y gwynt dros nos sydd wedi achosi i’r mwg ledaenu ar draws sawl ardal.