Môn: Dynes 18 oed wedi marw ar ôl dioddef ataliad ar y galon mewn gŵyl
Mae cwest i farwolaeth dynes ifanc 18 oed oedd wedi bod mewn gŵyl ar Ynys Môn wedi clywed ei bod wedi marw o achosion annaturiol.
Wrth agor y cwest yn ffurfiol yng Nghaernarfon fore dydd Mawrth, dywedodd Prif Grwner Canol a Gorllewin Gogledd Cymru, Kate Robertson, fod Lucy Ellen Halpin wedi ei geni ar 1 Mehefin 2008, ac roedd hi'n byw yn 17 Glan Menai ym Mangor.
Roedd hi'n weithiwr cefnogol o ran ei galwedigaeth.
Dywedodd y Crwner ei bod wedi marw yn Ysbyty Gwynedd a bod ei marwolaeth wedi ei chadarnhau gan y meddyg Casey Morgan.
Fe gafodd ei hadnabod yn ffurfiol gan ei thad, John Cottrell.
Ychwanegodd y Crwner fod Lucy wedi bod yng ngŵyl Tonnau yn Llanfaethlu ar 11 Gorffennaf pan gafodd hi ataliad ar y galon.
Dywedodd Kate Robertson mai canfyddiadau cychwynnol ei hymchwiliadau oedd bod marwolaeth Lucy yn un annaturiol.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau barhau gyda'u hymholiadau.
Ymgyrch codi arian
Mae ffrindiau Lucy wedi dechrau apêl am arian yn dilyn ei marwolaeth.
Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei ffrindiau: “Rydym ni, ffrindiau Lucy, wedi trefnu digwyddiad codi arian i ddangos ein parch at deulu Lucy ar adeg mor anodd; bydd unrhyw gyfraniadau'n mynd yn uniongyrchol at deulu Lucy fel y gallwn roi'r ffarwel gorau iddi, fel y mae hi'n ei haeddu.
"Byddai unrhyw un a oedd yn adnabod Lucy yn gwybod ei bod hi’n garedig, yn ofalgar ac yn ffrind da; roedd pawb o’i chwmpas yn gwybod pa mor ddeallus a doniol oedd hi.
"Roedd hi’n goleuo pob ystafell yr oedd yn camu i mewn iddi ac yn gwneud i bawb wenu bob tro.
"Ond yn oriau mân dydd Sadwrn, yn dilyn digwyddiad meddygol yng ngŵyl Tonnau, cafodd ei dwyn oddi arnom yn drasig ac yn rhy fuan; gyda’i holl ddyfodol o’i blaen, byddwn yn ei chario yn ein bywydau gyda chariad, a bydd colled fawr ar ei hôl.
"Bydd yr holl roddion yn mynd yn uniongyrchol i deulu Lucy tuag at gostau’r angladd, ac unrhyw ddigwyddiadau dilynol i anrhydeddu a chofio Lucy."
'Calonnau wedi torri'
Roedd Lucy yn gweithio yng Ngwesty a Bwyty Breeze Hill Bar ym Menllech.
Mewn teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y perchnogion: "Mae wedi bod yn wythnos hynod drist yn The Breeze Hill. Tafarn sydd wedi torri, yn llawn calonnau sydd wedi torri.
"Collwyd ein Lucy annwyl ddydd Gwener diwethaf, dim ond ychydig wythnosau ar ôl ei phen-blwydd yn 18 oed.
"Nid aelod o’r staff yn unig oedd Lucy; roedd hi’n rhan o’n teulu estynedig ac yn cael ei thrysori gennym ni, ein cwsmeriaid a’i chydweithwyr – llawer ohonynt wedi dod yn ffrindiau agos iddi.
"Roedd Lucy yn ofalgar, yn ddoniol, yn glyfar ac yn gwenu’n gyson.
"Roedd Lucy yn rhagorol wrth ofalu am ein cwsmeriaid, a bydd llawer ohonynt yn gweld ei heisiau yn fawr."
Llun: Breeze Hill.