Mae dyn 28 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio'r cyn-Aelod Seneddol Ann Widdecombe.
Mae disgwyl i Joshua Kerry o Rotherham, Sir De Efrog ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mawrth.
Cafodd ei arestio gyntaf ar amheuaeth o lofruddiaeth ar 11 Gorffennaf, ddeuddydd wedi i Ms Widdecombe gael ei darganfod yn farw yn Nyfnaint.
Cafodd y cyn-weinidog Ceidwadol ac yna llefarydd Reform UK, ei darganfod yn farw yn ei chartref yn Haytor, Dartmoor ddydd Iau, 9 Gorffennaf.
Mae'r heddlu yn credu ei bod hi wedi marw y diwrnod blaenorol.
Roedd ganddi anafiadau difrifol.
Ar 13 Gorffennaf, cafodd Joshua Kerry ei arestio hefyd ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi a chymhell gweithredoedd terfysgol.
Mae'r ymchwiliad i'r materion hynny yn parhau.
Mae disgwyl i gwest i farwolaeth Ann Widdecombe agor ddydd Mawrth.