Andy Burnham i gael gwared ar TAW o filiau trydan domestig

Ffôn yn dangos biliau trydan cartref

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog newydd, Andy Burnham, gyhoeddi ddydd Mawrth ei fod yn bwriadu cael gwared ar Dreth ar Werth (TAW) ar filiau ynni o 1 Hydref  "i helpu pobl gyda'r argyfwng costau byw".

Fe fydd yn cadeirio ei gyfarfod Cabinet cyntaf ar ôl iddo gymryd ei swydd fel Prif Weinidog ddydd Llun.

Fe addawodd y Prif Weinidog newydd ddarparu "lle i anadlu" i aelwydydd sy'n cael trafferth gyda chostau byw tu allan i Rif 10, Downing Street.

Yn ei anerchiad cyntaf fel Prif Weinidog, fe addawodd Mr Burnham y newid mwyaf i wleidyddiaeth Prydain mewn 40 mlynedd, a dywedodd y byddai'n cyflwyno "model gwleidyddol newydd a model economaidd newydd" i Brydain.

Dywedodd y Canghellor John Healey y byddai dileu'r TAW ar filiau ynni yn cael ei ariannu o ganslo'r rhaglen ID Digidol.

"Am gyfnod rhy hir, mae gormod o bobl wedi cael trafferth gyda chostau byw," meddai.

"Bydd torri’r dreth ynni heddiw yn rhoi rhywfaint o le i deuluoedd anadlu ar filiau, ac yn rhoi rhywfaint o sicrwydd y gaeaf hwn.

"Mae’r mesur hwn yn cael ei ariannu eleni drwy ganslo’r rhaglen ID Digidol, a bydd yn helpu i ostwng chwyddiant wrth gefnogi aelwydydd ym mhob cod post."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.