Dyn i ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio Ann Widdecombe
Mae disgwyl i ddyn 28 oed ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mawrth wedi ei gyhuddo o lofruddio'r cyn-Aelod Seneddol Ann Widdecombe.
Cafodd Joshua Kerry o Rotherham, Sir De Efrog, ei arestio gyntaf ar amheuaeth o lofruddiaeth ar 11 Gorffennaf, ddeuddydd wedi i Miss Widdecombe gael ei darganfod yn farw yn Nyfnaint.
Cafodd y cyn-weinidog Ceidwadol a llefarydd Reform UK ei darganfod yn farw yn ei chartref yn Haytor, Dartmoor ddydd Iau, 9 Gorffennaf.
Mae'r heddlu yn credu fod Ms Widdecombe, a oedd yn 78 oed, wedi marw y diwrnod blaenorol.
Roedd ganddi anafiadau difrifol.
Ar 13 Gorffennaf, cafodd Kerry ei arestio hefyd ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi a chymell gweithredoedd terfysgol.
Mae'r ymchwiliad i'r materion hynny yn parhau.
Cwest
Clywodd agoriad cwest i farwolaeth Miss Widdecombe fore Mawrth bod achos ei marwolaeth eto i'w gadarnhau.
Yn ystod gwrandawiad byr yn Llys Crwner Exeter, dywedodd y prif grwner Philip Spinney fod Miss Widdecombe wedi'i darganfod yn anymatebol yn ei chartref yn ystod gwiriad lles, yn dilyn pryderon nad oedd modd cysylltu â hi.
"Daeth y gweithiwr o hyd i Miss Widdecombe yn ei chartref. Roedd hi'n anymatebol ac roedd ganddi anafiadau gweladwy," meddai.
"Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ac, yn anffodus, cadarnhawyd ei bod wedi marw yn y fan a’r lle."
Ychwanegodd fod y cwest bellach wedi’i ohirio "tan ddiwedd yr achos troseddol".