Andy Burnham i gael gwared ar gynllun ID digidol a 'chanolbwyntio ar gostau byw'

Andy Burnham

Bydd Andy Burnham yn rhoi'r gorau i gynlluniau ar gyfer ID digidol a gyhoeddwyd gan y llywodraeth i bob oedolyn ym Mhrydain pan fydd yn dod yn Brif Weinidog ddydd Llun.

Bydd y cam hwn – sy'n dilyn cynlluniau newydd ar gyfer drilio am olew a nwy ym Môr y Gogledd – yn symud y ffocws i "flaenoriaethau dyddiol pobl ledled y wlad", yn ôl swyddfa Burnham.

O dan arweiniad Syr Keir Starmer, roedd y llywodraeth eisoes wedi lliniaru cynigion i gyflwyno ID digidol gorfodol i weithwyr yn y DU.

Bellach, drwy roi'r gorau i'r cynlluniau yn gyfan gwbl, dywedodd llefarydd ar ran Burnham y bydd yr "amser a'r adnoddau a oedd i'w gwario ar gynllun ID cenedlaethol yn cael eu defnyddio yn hytrach lle mae eu hangen fwyaf, fel helpu gyda chostau byw".

"Mae'r ail-flaenoriaethu hwn o adnoddau cyhoeddus yn dangos newid cyfeiriad tuag at wella bywyd bob dydd a chryfhau economïau lleol yn hytrach na chynlluniau drud y llywodraeth genedlaethol,” meddai.

Cyflwynwyd cynlluniau ar gyfer system ID digidol yn wreiddiol gan Syr Keir cyn cynhadledd y Blaid Lafur y llynedd.

Ar y pryd, fe wnaeth ddadlau y byddai ID digidol gorfodol i weithwyr yn ei gwneud hi'n haws mynd i'r afael â mewnfudwyr sy'n gweithio'n anghyfreithlon ac yn moderneiddio'r wladwriaeth.

Yn ogystal â mynd i'r afael â mewnfudo anghyfreithlon, dywedodd Syr Keir y byddai system ID digidol yn galluogi dinasyddion i brofi eu hunaniaeth er mwyn cael mynediad cyflym at wasanaethau allweddol, yn hytrach na gorfod chwilio am filiau cyfleustodau.

Amcangyfrifodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fis Tachwedd diwethaf y byddai'r rhaglen yn costio £1.8 biliwn dros dair blynedd, ond roedd Downing Street wedi gwrthod y ffigwr hwn.

Ffiasgo

Ym mis Ionawr, ar ôl i bron i dair miliwn o bobl lofnodi deiseb seneddol yn gwrthwynebu cyflwyno IDau digidol, newidiodd y llywodraeth ei dull gweithredu.

Yn lle hynny, fe wnaeth gweinidogion ollwng y rhan orfodol o'r cynllun a'i ail-lansio fel un gwirfoddol, gan ddweud y gallai IDau digidol ganiatáu i bobl wneud popeth o reoli eu gofal plant i lenwi ffurflenni treth ar ap "un man".

Yn fuan wedyn, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref, y Fonesig Karen Bradley, fod y llywodraeth yn iawn i gyflwyno ID digidol ond eu bod wedi gwneud cawlach o'r lansiad.

Mewn adroddiad yn nodi ymchwiliad y pwyllgor i'r lansiad a'r newidiadau dilynol i'r polisi ID digidol, galwodd y Fonesig Karen ymdrechion i amlinellu'r cynlluniau yn "ddim llai na ffiasgo" a "gododd ofnau y byddai'r llywodraeth yn gor-gyrraedd bywydau pobl".

Bydd cael gwared ar ID digidol, meddai llefarydd, ar ran Rhif 10, yn golygu "ailgyfeirio'r adnoddau a glustnodwyd ar gyfer y cynllun tuag at flaenoriaethau bob dydd pobl".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.