Criwiau’n parhau i fonitro tanau gwyllt ar draws y gogledd

Tân Rhinogydd

Mae criwiau yn dal i ddelio â thanau gwyllt mewn sawl man ar draws gogledd Cymru fore dydd Sul.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod nhw’n monitro tanau ym mynyddoedd y Rhinogydd ger Llyn Cwm Bychan, yn Harlech, Pentrefelin, Caergybi, ac ym Mwlch Sychnant, ger Capelulo yng Nghonwy.

Mae’r gwasanaeth yn cynghori trigolion yn yr ardaloedd hyn i aros dan do a chadw drysau a ffenestri ar gau.

Dywedodd y gwasanaeth: “Gall mwg barhau i effeithio ar ardaloedd nad ydynt wedi'u heffeithio o'r blaen, oherwydd newidiadau i gyfeiriad y gwynt trwy gydol y dydd. 

"Wrth i'r tymheredd ostwng, gall mwg setlo mewn ardaloedd is. Mae hyn i'w ddisgwyl.

"Cynghorir trigolion ac ymwelwyr sy'n cael eu heffeithio gan fwg i aros dan do a chadw ffenestri a drysau ar gau. 

"Unwaith y bydd mwg wedi clirio, dylid awyru eiddo trwy ailagor ffenestri a drysau. Mae rhagor o gyngor iechyd ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru."

Mae'r gwasanaeth yn gofyn i bobl gadw draw o leoliadau'r tanau er mwyn galluogi i griwiau weithio'n ddiogel a sicrhau bod mynediad i'w cerbydau.

Llun: Mwg yn codi ger Rhinog Fawr brynhawn Gwener

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.