Pentre-moch: Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cymeradwyo adfer yr enw Cymraeg

Northop Hall

Mae cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi cymeradwyo adfer enw Cymraeg ar gyfer pentref yn y sir.

Yn ystod cyfarfod llawn y cabinet ddydd Mawrth cefnogodd mwyafrif y cynghorwyr gais swyddogol i adnabod Pentre-moch fel enw Cymraeg ffurfiol ar bentref Northop Hall.

Bydd yr enw Cymraeg hefyd yn cael ei ychwanegu ar restr enwau safonol Comisiynydd y Gymraeg.

Yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn ag enw Cymraeg i'r pentref, sydd â phoblogaeth o tua 1,600, cafodd sawl opsiwn eu trafod.

Ymhlith y cynigion roedd cyfieithiad uniongyrchol o Northop Hall, sef Neuadd Llaneurgain.

Ond Pentre-moch gafodd ei ddewis.

Yn ystod y cyfarfod dywedodd aelod y cabinet dros y Gymraeg, Addysg, Diwylliant a Hamdden, Mared Eastwood, nad oedd angen i bobl defnyddio'r enw Cymraeg os oedden nhw wedi arfer gyda'r enw Saesneg.

Ychwanegodd ei fod yn "bwysig cydnabod defnydd presennol" enw Cymraeg y pentref yn hytrach nag "arfer hen enw".

Hanes yr enw

Mae’r enw Cymraeg ‘Pentre-moch’ am Northop Hall wedi cael ei ddefnyddio gan genedlaethau o bentrefwyr, ond erioed wedi cael ei gydnabod yn ffurfiol.

Daeth y cynnig i fabwysiadu’r enw’n ffurfiol yn dilyn cais gan y cyngor cymuned.

Cafodd y cynnig ei gefnogi gan adroddiad Panel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg, sydd yn datgan y byddai defnyddio’r enw ar y cyd â’r enw Saesneg yn adlewyrchu cynnydd yn nefnydd ‘Pentre-moch’. 

Cafodd y pentref ei ddatblygu ger plasty Northop Hall, o amgylch fferm o’r enw Pentre Moch. Mae erthyglau papur newydd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cyfeirio at y pentref gyda’r enw hwn.

Dywedodd adroddiad y panel bod ‘Pentre-moch’ wedi cael ei ddefnyddio ers hynny a hyd heddiw, a gellir ei ganfod ar wefannau hanes lleol, yn y wasg, ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r adroddiad yn cydnabod bod enwau Cymraeg eraill ar gyfer y pentref wedi cael eu defnyddio dros y blynyddoedd, yn bennaf oherwydd awydd i ganfod enw mwy “parchus” na ‘Pentre-moch’.

Serch hynny, mae’n pwysleisio bod yr enw’n ddisgrifiadol, yn hytrach na’n ddirmygus, gan ychwanegu nad oes gan enwau eraill yr un sail hanesyddol â ‘Pentre-moch’, nac ychwaith wedi ennill ei blwyf yn yr un ffordd. 

Mae nifer o enwau lleoedd yng Nghymru yn cynnwys ‘moch’, fel ‘Mochdre’, meddai.



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.