Prif Weithredwr y Gweilch yn gadael y rhanbarth

Lance Bradley

Mae Prif Weithredwr y Gweilch, Lance Bradley, wedi cyhoeddi ei fod yn gadael y rhanbarth.

Mae Bradley, a chwaraeodd rôl ganolog yn y penderfyniad i symud y clwb o Stadiwm Swansea.com i Sain Helen, yn gadael y rôl ar ôl dwy flynedd a hanner gyda’r rhanbarth.

Bydd y clwb yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn ag olynydd Bradley maes o law.

Dywedodd Mr Bradley: “Mae yna ddywediad yn rygbi eich bod bob tro'n dymuno gadael y crys mewn safle gwell na phan gaethoch chi ef. Er gwaethaf 12 mis hynod heriol, dw i’n teimlo fy mod i wedi gwneud hynny gyda’r Gweilch.”

Mae ansicrwydd dros ddyfodol hir dymor y rhanbarth, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi arwyddo Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA) gydag Undeb Rygbi Cymru fis diwethaf tan ddiwedd tymor 2027/28.

Mae'r cytundeb, gyda pherchnogion Gweilch, Y11 Sport & Media, yn sail i'r berthynas waith rhwng Undeb Rygbi Cymru a'r timau dynion rhanbarthol. Fe wnaeth y Gweilch a Scarlets wrthod arwyddo’r cytundeb fis Hydref diwethaf, ond bellach mae’r ddau wedi ymuno â Chaerdydd a’r Dreigiau drwy gytuno gyda’r Undeb.

Er hynny, mae'r undeb yn bwriadu bwrw ymlaen â chynlluniau dadleuol i leihau nifer y timau proffesiynol o bedwar i dri sydd wedi denu beirniadaeth, protestiadau a chamau cyfreithiol.

Ychwanegodd Bradley: “Pan ymunais yn 2024, doedd gennym ddim stadiwm, roedd sefyllfa ariannol mewn siâp sâl ac er bod yna grŵp craidd o gefnogwyr angerddol, roedd eu rhifau yn dirywio.

“Y tymor nesaf byddwn yn symud i stadiwm ein hunain yn Sain Helen, mae ein cyllid yn edrych yn well nag erioed, ac mae gwerthiant tocynnau tymor eisoes y gorau y maent wedi bod ers dros ddegawd, o bell ffordd.

“Ar ben hynny, y rhan bwysicaf o unrhyw glwb rygbi, yw ei ochr chwarae, ac mae’n datblygu'n dda - gan adeiladu ar ein statws fel rhanbarth mwyaf llwyddiannus Cymru.

“Hoffwn ddiolch i bawb yn y Gweilch am eu cyfeillgarwch a'u cefnogaeth. Dymunaf y gorau i'r clwb yn y dyfodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.