Carchar i ddyn o dde Cymru am ddweud bod bomiau yn LA ar ôl ymchwiliad gan yr FBI
Mae dyn o dde Cymru a gafodd ei arestio yn dilyn ymchwiliad gan FBI America i ddigwyddiadau lle gwneir galwadau ffug i’r gwasanaethau brys wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.
Cafodd Callum Dare, 26 oed, o Bont-y-clun ei ddedfrydu i ddwy flynedd a thri mis yn y carchar dydd Mawrth..
Roedd wedi defnyddio y we dywyll i annog digwyddiadau 'swatting' yng Nghymru ac yn UDA, ac yna i frolio amdanynt.
Mae 'swatting' yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio gweithred o aflonyddu ar ddioddefwr drwy anfon heddlu arfog i leoliad y person hwnnw ar ôl rhoi gwybod am argyfwng ffug, gyda'r enw yn deillio o dimoedd SWAT (Special Weapons and Tactics) yr Unol Daleithiau.
Un o’r digwyddiadau oedd adroddiad ffug i Adran Heddlu Los Angeles am fomiau dan gadeiriau ym Mhrifysgol California, a bu’n rhaid i bawb adael y safle.
Mewn digwyddiad arall, cafodd newyddiadurwr o Gaerdydd alwad ffug yn dweud bod bom mewn gwesty yng nghanol dinas Caerdydd, a bu’n rhaid i’r heddlu gau’r ardal.
Ym mis Mai 2019, cafodd Heddlu De Cymru a Tarian eu hysbysu am ymchwiliad gan yr FBI oedd yn ymwneud â Mr Dare.
Fe wnaeth archwiliad fforensig o ddyfeisiau electronig Dare ddod o hyd i ddeunydd o ffrydiau byw, recordiadau teledu cylch cyfyng, ffeiliau sain, adroddiadau newyddion a deunydd arall oedd yn ymwneud â galwadau ffug.
Fe wnaeth swyddogion hefyd ddod o hyd i ffeil gywasgedig oedd yn cynnwys cod cyfrifiadurol maleisus oedd yn gallu hwyluso ymosodiadau gwe-rwydo.
Yn hytrach na sefyll ei brawf, fe wnaeth Mr Dare bledio’n euog ar 15 Mehefin 2026 i’r troseddau canlynol:
• Annog neu gynorthwyo cyflawni troseddau y gellir eu rhoi ar brawf naill ai mewn llys ynadon neu Lys y Goron, gan gredu y byddai un neu ragor ohonynt yn cael eu cyflawni.
• Bod ag eitem yn ei feddiant neu dan ei reolaeth i’w defnyddio i gyflawni twyll.
Mae’r troseddau yn groes i Ddeddf Troseddau Difrifol 2007 a Deddf Twyll 2006.
'Nid pranc'
Dywedodd Louisa Robertson o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Rhoddodd Callum Dare bobl mewn perygl drwy annog yr heddlu arfog i ymateb i ffug ddigwyddiadau, er mwyn rhoi gwefr iddo’i hun.
“Pan fo galwadau diangen fel hyn yn cael eu gwneud, mae nifer o wasanaethau brys yn gorfod ymateb, ac maent yn cael eu tynnu oddi ar bobl sydd wir angen cymorth.
“Roedd gwaith cydweithio rhyngwladol rhwng asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac erlynwyr mewn gwahanol awdurdodaethau wedi galluogi i wasanaeth Erlyn y Goron adeiladu achos cryf yn erbyn Dare, a dangos cymaint o effaith y mae ei droseddau wedi ei chael ar bobl, gan sicrhau nad oedd ganddo fawr ddim dewis ond pledio’n euog.
“Rwy’n gobeithio y bydd y ddedfryd yma heddiw yn atal eraill rhag cyflawni troseddau fel hyn.”
Dywedodd Terence G. Reilly, yr asiant arbennig sy’n gyfrifol am swyddfa’r FBI yn Nashville: “Nid pranc heb ddioddefwyr yw 'swatting'. Mae’n drosedd ddi-hid a pheryglus a all arwain at ganlyniadau marwol.
“Mae’r ymchwiliad hwn yn dangos ymroddiad rhyfeddol yr FBI a’n partneriaid rhyngwladol ym maes gorfodi’r gyfraith i fynd ar drywydd y rhai sy’n cyflawni’r drosedd beryglus hon a’u dwyn o flaen eu gwell, waeth lle yn y byd maen nhw’n byw.”