Cyhuddo Reform o geisio atal defnyddio yr iaith Aeleg mewn deunyddiau etholiadol
Mae plaid Reform UK wedi cael ei chyhuddo o geisio gwneud cyhoeddi deunyddiau etholiadol yn iaith Gaeleg yr Alban yn drosedd.
Dywedodd yr SNP fod gwelliant Reform i Fil Cynrychiolaeth y Bobl Llywodraeth y DU yn “warthus” ac yn “wrth-Albanaidd”.
Mae’r gwelliant, a gyflwynwyd gan y dirprwy arweinydd Richard Tice, yn dweud y dylai fod yn ofynnol i ddeunyddiau etholiadol, gan gynnwys placardiau, posteri neu lenyddiaeth arall, fod naill ai yn Saesneg neu yn Gymraeg.
O dan y cynigion, gallai rhywun sy’n torri’r rheolau gael ei garcharu am hyd at chwe mis a chael dirwy.
Cafodd y gwelliant, sydd bron yn sicr o beidio â chael ei basio, ei gefnogi gan ASau Reform Lee Anderson, Sarah Pochin, Danny Kruger, Robert Jenrick, Andrew Rosindell a Suella Braverman.
Mae’r SNP wedi mynnu bod Reform yn tynnu’r cynigion yn ôl.
Dywedodd Maree Todd, Aelod o Senedd yr Alban dros yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd: “Mae’r gwelliant gwrth-Albanaidd gwarthus hwn yn dweud cyfrolau.
“Mae Reform eisiau gweld pob arwydd o’n hieithoedd brodorol yn cael ei ddileu o wleidyddiaeth yr Alban.
“Yn ogystal â chynlluniau i dorri nifer ein Haelodau Seneddol ac ‘adolygu’ pwerau Senedd yr Alban, mae Farage a’i griw eisiau bygwth pobl yn yr Alban â charchar am gyhoeddi deunyddiau gwleidyddol yn y Sgoteg neu’r iaith Aeleg.
“Rydyn ni’n gwybod nad oes ots o gwbl gan Reform am yr Alban, ond mae’r cam hwn yn ein hatgoffa’n ormodol o’r deddfau creulon yn erbyn yr iaith Aeleg yn ystod Cliriadau’r Ucheldiroedd (Highland Clearenes).
“Rhaid i Reform wneud y peth iawn nawr, ymddiheuro i bobl yr Alban am geisio troseddoli deunyddiau etholiadol sydd wedi’u hysgrifennu yn ieithoedd yr Alban, a thynnu’r gwelliant gwarthus hwn yn ôl ar unwaith.”
Dywedodd Reform UK yr Alban fod honiadau’r SNP yn “gamweiniol, fel y gellid disgwyl”.
Dywedodd Max Bannerman, Aelod Senedd yr Alban dros ranbarth yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd: “Fel un o bobl yr Ucheldiroedd sy’n gefnogwr brwd o’r iaith Aeleg a threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog yr Alban, gallaf warantu bod Reform UK wedi ymrwymo i ddiogelu treftadaeth ieithyddol Prydain.
“Cafodd y gwelliant hwn ei lunio ar gyfer Lloegr a Chymru, nid yr Alban a Gogledd Iwerddon.
“Ei nod oedd diogelu etholiadau a sicrhau eu bod yn cael eu hymladd yn ieithoedd y wlad, nid mewn Wrdw na Bengaleg.
“Nid yw hyn yn ymwneud â bychanu hunaniaeth na threftadaeth yr Alban.
“Dyna pam rwy’n ystyried cyflwyno Bil i Senedd yr Alban i sicrhau mai mewn Gaeleg, Sgoteg a Saesneg yn unig y bydd etholiadau’r Alban yn cael eu hymladd yn y dyfodol.
“Mae’r SNP wedi methu â diogelu ein hieithoedd brodorol, gan ddewis yn hytrach greu dicter ynghylch materion dibwys. Mae Reform yn rhoi ei eiriau ar waith.”
Y mesur
Byddai Bil Cynrychiolaeth y Bobl, pe bai’n cael ei basio, yn caniatáu i bobl 16 ac 17 oed bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Byddai’r ddeddfwriaeth hefyd yn tynhau’r rheolau ynghylch rhoddion gwleidyddol, yn diogelu rhag ymyrraeth dramor, yn symud tuag at gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ac yn ehangu’r mathau o brawf adnabod derbyniol i gynnwys cardiau banc a gyhoeddwyd yn y DU.
O dan Ddeddf Ieithoedd yr Alban, mae’r iaith Aeleg a’r Sgoteg yn cael eu cydnabod yn ieithoedd swyddogol yn yr Alban.
Mae gan tua 130,000 o bobl yn yr Alban rywfaint o sgiliau yn yr iaith Aeleg, yn ôl Cyfrifiad 2022, tra bod gan bron i 2.5 miliwn rywfaint o sgiliau yn y Sgoteg.