Newyddion S4C

Pryderon am effaith prosiectau solar ar gymunedau Ynys Môn

Pryderon am effaith prosiectau solar ar gymunedau Ynys Môn

Mae rhaid i Lywodraeth Cymru ymyrryd er mwyn sicrhau fod cymunedau yn elwa o ffermydd solar mawr sy’n cael caniatâd gan weinidogion Bae Caerdydd, yn ôl Cyngor Ynys Môn.

Mae pryderon fod tir da yn cael ei golli a’r elw yn gadael yr ynys wrth i geisiadau am ffermydd mawr gael eu gwneud ar yr ynys.

Erbyn 2030 dylai 70% o drydan Cymru ddod o ffynonellau adnewyddadwy, yn ôl y llywodraeth.

Mae cwmni Low Carbon wedi gwneud cais i osod paneli solar ym Mryngwran ac ym mhentref cyfagos Caergeiliog.

Byddai’r ffermydd hyn yn creu digon o drydan i gynnal tua 12,000 o dai.

Ond, mae rhai yn gwrthwynebu cynlluniau Parc Solar Traffwll.

'Difetha cynefin'

Dywedodd Hywel Hughes: “Da ni’n cytuno hefo ynni adnewyddadwy, ond di hynny ddim yn dweud bod pob datblygiad yn gweddu i’r ardal lle ma’n cael ei gynnig.

“Dydio ddim yng nghynllun datblygu lleol Gwynedd a Môn sydd wrth gwrs yn adnabod tir sydd yn addas ar gyfer unrhyw fath o ddatblygiad boed o’n wynt neu solar. Mae o hefyd yn difetha ardal, a sw ni hefyd yn mynd mor bell a dweud bod o’n difetha cynefin pobl.”

Image
Traffwll

Tri darn o dir sy’n rhan o gynlluniau Traffwll, ond mae cynlluniau eraill yn y sir yn ardal Llyn Alaw ac yn nes at Amlwch sydd yn llawer mwy o ran maint.

Mae’n ddyddiau cynnar ar y mentrau yma, ond bwriad un prosiect yw defnyddio cannoedd o aceri o dir ger Llyn Alaw. Gyda chynllun arall eisiau gosod paneli dros 2,000 acer mewn tri safle gwahanol.

Er nad ydyn nhw’n gwneud sylw ar geisiadau unigol, mae Cyngor Ynys Môn yn poeni nad ydi pobl y sir yn elwa o brosiectau solar mawr.

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones: “Dydi’r manteision lleol ddim yn dŵad gyda nhw, sef yr hwb i'r economi lleol, y swyddi a’r manteision i’r gymuned leol. A da chi’n sbïo ar yr ochr arall, y golled posib o dir ffrwythlon amaethyddol, miloedd o aceri.

“Da ni’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i egluro yn glir i ddatblygwyr os da chi am ddŵad i greu prosiectau fel ‘ma, bod rhaid i’r manteision – y berchnogaeth leol, y buddion cymunedol fod yna, a dim yr effaith cronnus da ni’n mynd i weld efo colli miloedd o aceri o dir ffrwythlon, amaethyddol.”

Yn ôl y llywodraeth, mae cyflwyno ynni adnewyddadwy – ac felly mynd i’r afael â newid hinsawdd – yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau.

Dywedodd llefarydd eu bod yn disgwyl i brosiectau solar sicrhau manteision i bobl leol a’u bod yn annog cymunedau i gyflwyno eu prosiectau eu hunain.

‘Allbwn da i gymunedau’

Dywedodd Rhys Wyn Hughes, Cyfarwyddwr, RenewableUK: “Does dim amheuaeth fod angen lot, lot fwy o bŵer sy’n dod o ynni adnewyddadwy.

"Mae hynny’n golygu bydd ‘na chynnydd ym mhrosiectau sy’n cael eu cynnal yng Nghymru.

"Ond, dwi’n meddwl y peth pwysig i gofio yw bod datblygwyr cyfrifol yn ymrwymedig iawn at gydweithio efo cymunedau, ac yn ail, mae’r bar ar gyfer beirniadu a ydi cynlluniau yn addas i fynd yn eu blaen yn uchel iawn. Felly rhwng y ddau beth yna, fe ddylai fod yna allbwn da i gymunedau yng Nghymru.”

Mae ymgynghoriad am y cynllun ym Mryngwran a’r cylch yn dod i ben ddydd Gwener.

Yn ôl y datblygwyr, maen nhw’n ystyried a oes cyfle i gyflwyno perchnogaeth leol fel rhan o’r prosiect.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.