Dyn o Abertawe wedi’i wahardd rhag cadw anifeiliaid am 15 mlynedd ar ôl esgeuluso dau gi
RHYBUDD: Gall cynnwys yr erthygl yma beri gofid
Mae dyn o Abertawe wedi’i wahardd rhag cadw anifeiliaid am 15 mlynedd ar ôl esgeuluso dau gi Jack Russell oedd yn ordew iawn.
Plediodd William Johns, o Abertawe, yn euog i ddwy drosedd o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.
Cafodd ddedfryd o wyth mis yn y carchar, wedi’i gohirio am ddwy flynedd, yn Llys Ynadon Abertawe.
Cafodd hefyd orchymyn i dalu £400 o gostau llys a gordal dioddefwr o £187.
Daeth yr RSPCA o hyd i’r cŵn, Cai a Lily, yng nghartref Johns.
Roedd y ddau yn ordew iawn, ac roedd Cai yn dioddef o fethiant y galon.
Roedd ei gyflwr mor wael nes i filfeddyg benderfynu mai’r peth mwyaf caredig fyddai ei roi i gysgu.
Cafodd Lily ei chymryd i ofal yr elusen yn ddiweddarach.
‘Erioed wedi gweld ci mor ordew’
Clywodd y llys fod swyddog achub anifeiliaid yr RSPCA wedi ymweld â’r cartref ym mis Medi 2025.
Roedd Cai wedi llewygu ac roedd staeniau wrin dros ei gorff.
Cytunodd Johns i adael i’r swyddog fynd â’r ci at filfeddyg.
Yn ystod ymweliad dilynol, cafodd Johns ei gynghori i fynd â Lily at filfeddyg i gael ei phwyso a’i rhoi ar ddeiet, ond gwrthododd gydweithio â swyddogion yr elusen.
Aeth Arolygydd yr RSPCA, Gemma Cooper, i’r cartref gyda swyddogion Heddlu De Cymru ym mis Rhagfyr, pan gafodd Lily ei chymryd oddi yno gan yr awdurdodau.
Mewn datganiad i’r llys, dywedodd ei bod wedi cael sioc wrth weld maint y ci.
“Pan es i i’w chymryd hi oddi wrth y swyddog heddlu, roedd yn anodd ei dal hi fel ci arferol gan fod ei chorff mor grwn a chaled," meddai.
“Yn ystod fy 15 mlynedd fel arolygydd yr RSPCA, dwi erioed wedi gweld ci mor ordew."
Dywedodd milfeddyg fod Cai yng nghamau olaf methiant y galon.
Roedd ganddo sgôr cyflwr corff o naw allan o naw, gyda phump yn cael ei ystyried yn bwysau iach.
Roedd gan Lily hefyd sgôr o naw allan o naw ac roedd yn fyr ei gwynt am y rhan fwyaf o’r amser yn y clinig.
Roedd hi’n pwyso 14.2kg.
Dywedodd y milfeddyg fod lefel ei gordewdra ymhlith y gwaethaf iddo ei weld, a bod y ci yn cael trafferth symud.
Lily wedi gwella
Cafodd Lily ei rhoi ar ddeiet addas ac fe gollodd fwy na 2kg yn ystod ei mis cyntaf yng ngofal yr RSPCA.
Mae hi wedi gwella’n dda a bydd yr elusen nawr yn ceisio dod o hyd i gartref newydd iddi.
Clywodd y llys nad oedd Johns yn gallu gofalu am y cŵn oherwydd nifer o broblemau iechyd, gan gynnwys clefyd Parkinson a symudedd cyfyngedig ar ôl colli coes.
Roedd wedi cytuno’n ddiweddarach i drosglwyddo Lily i ofal yr RSPCA.
Dywedodd Gemma Cooper ar ôl y gwrandawiad: “Cafodd y cŵn druan yma eu gadael i gynyddu cymaint mewn pwysau oherwydd anallu’r diffynnydd i ddarparu deiet cytbwys iddyn nhw.
“Aeth un ohonyn nhw mor wael nes iddo orfod cael ei roi i gysgu, a phe na baem wedi dychwelyd i’r eiddo, fe allai’r ail gi hefyd fod wedi mynd yn ddifrifol wael.”
