Arestio dyn 18 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i ddyn 18 oed arall farw yng Ngorseinon
Mae dyn 18 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i ddyn 18 oed arall farw mewn gwrthdrawiad yng Ngorseinon, Abertawe ddydd Iau.
Mae dyn arall 19 oed hefyd wedi ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Ffordd Pen Cae Crwn yng Ngorseinon am 12:58 ddydd Iau wedi adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a beic off-road.
Cafodd parafeddygon eu galw i safle'r gwrthdrawiad fyd, ond bu farw dyn 18 oed yn y fan a'r lle.
Dyw'r corff heb gael ei adnabod yn ffurfiol hyd yma ond mae teulu dyn ifanc 18 oed wedi cael gwybod.
Fe gafodd dyn arall 19 oed ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans gyda mân anafiadau.
Dywedodd yr heddlu bod dyn 18 oed o Dreforys wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, gyrru cerbyd yn beryglus, gyrru cerbyd heb fod yn addas i'w wneud oherwydd cyffuriau, a gyrru gyda chyffur penodol dros y trothwy (unfit to drive through drugs and driving a motor vehicle with a proportion of a specified controlled drug above the specified limit.)
Mae'n parhau yn y ddalfa.
Roedd sawl prif ffordd yn y dref wedi cau i gerbydau a cherddwyr wedi'r digwyddiad ar Ffordd Pen Cae Crwn nos Iau.
Roedd ffordd ar gau rhwng Ffordd Cecil ar gyffordd y Stryd Fawr tuag at Pen Cae Crwn a tuag at y gyffordd ar Ffordd Frampton, a fefyd roedd Ffyrdd Brighton, Brynteg a Phontarddulais ar gau.
Dywedodd y Prif Dditectif Arolygydd Danielle Thorne ei bod yn deall y pryder ymysg aelodau'r gymuned yng Ngorseinon.
"Rwy'n deall y pryder yn y gymuned leol o ganlyniad i'r ymchwiliad hwn ac rwyf am ddiolch iddynt am eu hamynedd a'u dealltwriaeth barhaus ar hyn o bryd," meddai.
"Mae gweithgarwch heddlu yn parhau yn yr ardal, a bydd yn parhau am sawl awr, fodd bynnag rydym yn gweithio'n gyflym i gynnal ymholiadau yn yr ymchwiliad cymhleth hwn.
"Mae gennym adnoddau sylweddol yn gweithio i godi'r ffyrdd hyn sydd wedi cau cyn gynted â phosibl. Gofynnaf i drigolion sydd angen mynd allan neu fynd i mewn ar frys siarad â swyddog yn y fan a'r lle a fydd yn eich cefnogi yn ôl yr angen.