Nigel Farage yn ymddiswyddo fel AS i frwydro mewn is-etholiad newydd
Nigel Farage yn ymddiswyddo fel AS i frwydro mewn is-etholiad newydd
Mae arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel Aelod Seneddol er mwyn brwydro mewn is-etholiad yn Clacton, yn ne-ddwyrain Lloegr.
Mae wedi bod o dan bwysau yn ddiweddar yn sgil cefnogaeth ariannol a dderbyniodd gan berson a gafwyd yn euog o dwyll, a rhodd o £5 miliwn gan fuddsoddwr.
"Gadewch i fi fod yn hollol glir, dydw i ddim wedi gwneud unrhyw beth o'i le," meddai mewn datganiad brynhawn Mawrth.
"Dydw i ddim wedi torri'r gyfraith mewn unrhyw fodd o gwbl."
Ychwanegodd: "Mae'r sefydliad wedi penderfynu nad oes modd ein curo yn deg, ac felly maen nhw'n dewis dulliau brwnt."
Nododd ei fod wedi dod i'r penderfyniad ar ôl i lun o gartref ei ferch gael ei gyhoeddi ym mhapur newydd The Times.
"Wna i ddim goddef pobl yn bygwth fy nheulu," meddai.
"Rwy'n grac, dydw i erioed wedi bod mor grac yn fy mywyd," ychwanegodd.
Honnodd fod darlledwyr wedi bod yn ei phlagio yn cynnwys Sky News.
Mae Sky yn mynnu nad ydyn nhw wedi cysylltu ag unrhyw aelod o deulu Mr Farage am ei roddion ariannol.
'Y bobl yn erbyn y sefydliad'
Yn ei ddatganiad fideo, heb gyfle i newyddiadurwyr ei holi, dywedodd Nigel Farage na fyddai'n cael ei "farnu" gan y cyfryngau.
"Rydw i wedi penderfynu mai pobl Clacton ddylai fod yn feirniaid fy ngweithredoedd," meddai.
" Bydd hwn yn is-etholiad y bobol yn erbyn y sefydliad," ychwanegodd.
" Mae'n gyfle i godi dau fys i'r holl sefydliad, i ddweud wrthyn nhw lle i fynd, a dyna pam rydw i'n cynnig fy enw i sefyll yn yr is-etholiad hwn."
Derbyniodd Nigel Farage gefnogaeth ariannol gan George Cottrell, sydd wedi ei gael yn euog o drosedd, yn y flwyddyn cyn iddo gael ei ethol i San Steffan, gan dorri rheolau ASau o bosib drwy fethu â datgan y gefnogaeth, yn ôl adroddiadau.
Darparodd ei gyfaill hirdymor George Cottrell gyllid ar gyfer ymgyrch arweinydd Reform UK, gan gynnwys ar gyfer staffio a diogelwch, yn ôl adroddiadau yn y wasg.
Plediodd Cottrell, 32 oed, yn euog i gyhuddiad o dwyll electronig yn yr Unol Daleithiau yn 2017, ac fe gafodd ei garcharu am wyth mis.
Cafodd ei arestio wrth iddo fe a Mr Farage ddychwelyd i Brydain ar ôl taith i America.
Mae Reform UK yn gwadu bod eu harweinydd wedi torri'r rheolau ymddygiad.
Mae Mr Farage wedi ymateb yn ffyrnig i gwestiynau gan newyddiadurwyr am ei roddion, gan wadu iddo wneud unrhyw beth o'i le.
Mae cwestiynau hefyd am rodd o £5 miliwn a dderbyniodd Nigel Farage yn 2024 gan Christopher Harborne, buddsoddwr mewn arian crypto sydd yn byw yng Ngwlad Thai.
Mae AS Clacton wedi rhoi sawl eglurhad am y rhodd, gan gynnwys ei fod ar gyfer talu am ei ddiogelwch personol.
Mae Comisiynydd Safonau'r Senedd yn San Steffan, Daniel Greenberg, eisoes yn cynnal ymchwiliad er mwyn ystyried a ddylai Mr Farage fod wedi datgelu'r rhodd gan Mr Harborne.
Pe bai'n dod i'r casgliad iddo dorri'r rheolau, gallai Nigel Farage wynebu sancsiynau.
Comisiwn Etholiadol
Mae'r Blaid Lafur wedi gofyn i'r Comisiwn Etholiadol gynnal ymchwiliad er mwyn darganfod a ddylai'r gefnogaeth ariannol fod wedi cael ei datgelu.
Mae Llafur hefyd yn awyddus i gael gwybod a oedd Mr Cottrell, sydd wedi ei leoli yn Montenegro, yn rhoddwr derbyniol, gan honni nad yw'n glir a oedd ar gofrestr etholwyr y Deyrnas Unedig ar y pryd.
Ddydd Llun, galwodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, ar y Comisiynydd Safonau Seneddol i gynnal ymchwiliad ffurfiol i arweinydd Reform UK, Nigel Farage, ar y sail y gallai fod wedi torri Cod Ymddygiad ASau.