Tân mawr ger safle hen burfa olew yn Sir Benfro
Tân mawr ger safle hen burfa olew yn Sir Benfro
Mae tân mawr yn cynnau ger safle hen burfa olew Murco yn Sir Benfro nos Lun.
Mae'r tan ar safle Impala, a oedd yn arfer cael ei adnabod fel Puma Energy.
Yn ôl y cwmni, mae eu gweithwyr yn ddiogel.
Mae Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn nodi fod sawl criw yn ymateb i ddigwyddiad yng ngorllewin Robeston yn Aberdaugleddau.
"Osgowch yr ardal a cheisiwch ddod o hyd i lwybrau eraill ar gyfer eich taith, er mwyn sicrhau bod modd i gerbydau'r gwasanaethau brys gael mynediad i'r safle," meddai'r datganiad.
Mae trigolion lleol hefyd yn cael eu cynghori i gadw eu ffenestri a drysau ynghau os oes mwg trwchus yn yr ardal.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd yn cynghori pobl i osgoi'r ardal.