Carchar i ddyn o Ynys Môn a oedd wedi bygwth llosgi ei gyn-bartner
Mae dyn o Ynys Môn wedi cael ei garcharu ar ôl ymosod ar ei gyn-bartner a bygwth ei llosgi hi.
Mi ymddangosodd Jason Thomas, o Ffordd Talwrn, Pentraeth, gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener, 3 Gorffennaf.
Roedd y dyn 36 oed eisoes wedi cyfaddef cyhuddiadau o ymosod, ymddygiad rheolaethol a gorfodol, ac aflonyddu gan achosi ofn trais.
Yn ystod eu perthynas dros bedair blynedd, mi geisiodd Thomas reoli ei gymar.
Mi osododd declyn tracio yn ei char heb iddi wybod, ei chyhuddo ar gam o gael perthynas efo rhywun arall, edrych drwy ei ffôn heb ei chaniatâd a’i galw’n enwau cas.
Mi ddaeth eu perthynas i ben ym mis Mehefin 2025, ond mi barhaodd Thomas i aflonyddu arni hi.
Mi wnaeth hi rwystro ei rif ffôn, ond mi barhaodd yntau i gysylltu efo hi.
Ym mis Awst 2025, mi ymosododd arni drwy ei dyrnu sawl gwaith yn ei hwyneb ac ar ei chorff, gan achosi cleisiau poenus.
Yna, mi anfonodd lun o gan petrol ati hi a bygwth ei llosgi hi, gan wneud iddi ofni am ei bywyd.
Cafodd ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis.
Cafodd hefyd Orchymyn Gwarchod Cam-drin Domestig, sy’n ei wahardd rhag cysylltu efo’r dioddefwr.
‘Dewrder’
Dywedodd Ditectif Arolygydd Chris Burrow: “Mi gafodd ymddygiad Thomas tuag at ei gyn-gariad effaith drychinebus ar ei hiechyd meddwl a’i lles hi.
“Ni ddylai unrhyw un byth deimlo’n anniogel yn eu cartref eu hunain, yn enwedig dan law rhywun sy’n dewis defnyddio trais ac ofn.
“Dwi’n canmol y dioddefwr am ei dewrder hi wrth ddod atom ni, a dwi’n gobeithio nad ydy hi bellach yn byw mewn ofn y bydd o’n achosi niwed iddi hi a’i theulu hi.
“Yn unol â’n blaenoriaethau heddlu ni, ‘da ni’n gwbl ymroddedig i warchod dioddefwyr cam-drin domestig a dod â throseddwyr o flaen eu gwell.
“’Da ni’n annog unrhyw un sy’n dioddef cam-drin, neu’n pryderu am les rhywun arall, i gysylltu efo ni.
“Mi wnawn ni wrando, mi wnawn ni helpu ac mi wnawn ni weithredu.”