Powys: Ymchwiliad yn dilyn sawl ymgais i dorri i mewn i ysbytai

Ysbyty'r Trallwng

Mae'r heddlu yn ymchwilio i sawl ymgais i dorri i mewn i storfeydd meddygol mewn ysbytai ym Mhowys.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod unigolion wedi ceisio torri i mewn i ardaloedd storio nwyon meddygol yn y Trallwng a Thref-y-clawdd ar 5 a 7 Mehefin.

Mae'r llu yn dweud eu bod yn cymryd "camau cadarn" er mwyn ceisio atal unrhyw ymdrechion eraill i dorri i mewn i'r storfeydd yma.

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu fod dwyn o'r storfeydd yn gallu amharu ar wasanaethau ysbytai.

"Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu yn syth.

"Mae amddifadu ysbyty o sylweddau all leddfu poen cleifion yn gallu arwain at ganslo apwyntiadau ac amharu ar wasanaethau.

"Er bod y lladron yn aflwyddiannus y tro yma, mae mesurau diogelwch wedi cynyddu ym mhob ysbyty ym Mhowys."

Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth yn gallu cysylltu â'r heddlu drwy gysylltu â nhw ar eu gwefan, ar-lein neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 26*455851.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.