Marwolaeth Y Trallwng: Cyhuddo dyn o lofruddiaeth
Mae dyn 22 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn 49 oed yng nghanol tref Y Trallwng yn ystod oriau mân fore Sul.
Mae Martin Slezak, o Stanley Street, Y Trallwng, wedi’i gyhuddo o lofruddio Young John Mongan, o Walsall.
Mae wedi’i gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn y llys.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys eu bod yn diolch i’r rhai sydd wedi cynorthwyo eu hymchwiliad hyd yma.
Cafodd swyddogion eu galw i’r digwyddiad am 01.16 fore Sul wedi adroddiadau fod dyn 49 oed wedi ei anafu. Er ymdrechion y gwasanaeth ambiwlans, by farw’r dyn yn y fan a'r lle.
Mae Heddlu Dyfed-Powys eisiau clywed gan unrhyw un a welodd unrhyw aflonyddwch o gwmpas Stryd yr Eglwys rhwng 00:45 ac 01:15 y bore.
Mae'r llu hefyd wedi annog pobl leol i beidio â rhannu lluniau o'r digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd swyddogion brynhawn dydd Llun eu bod nhw'n "ymwybodol bod lluniau fideo o'r lleoliad yn cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol" ac "yn gofyn nad yw hyn yn cael ei rannu ymhellach".
Dywedodd comander Powys, yr Uwcharolygydd Gareth Grant: “Nid yn unig y mae hwn yn ymchwiliad byw, a allai gael ei beryglu os yw deunydd tystiolaethol posibl yn cael ei rannu, ond mae teulu galarus wrth wraidd ein hymholiadau, yr ydym yn gofyn i’r cyhoedd eu parchu.
“Maent yn mynd trwy gyfnod annirnadwy, a’r peth olaf y byddent ei eisiau yw i eiliadau olaf eu hanwylyd gael eu trosglwyddo fel rhyw fath o adloniant.
“Gallaf sicrhau cymuned Y Trallwng fod ein tîm CID a throseddau mawr yn bwrw ymlaen â’r ymchwiliad, gan ddilyn pob llinell ymholi sydd ar gael iddynt.
“Bydd patrolau heddlu ychwanegol yn cael eu cynnal yng nghanol y dref dros y dyddiau nesaf, a bydd y swyddogion hyn ar gael i unrhyw un sydd â phryderon.”