Sir Benfro: Pryder am ‘agweddau negyddol’ at y Gymraeg cyn Eisteddfod y Garreg Las
Sir Benfro: Pryder am ‘agweddau negyddol’ at y Gymraeg cyn Eisteddfod y Garreg Las
Mae un o gynghorwyr Sir Benfro wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C ei fod yn pryderu am agweddau negyddol rhai o’i gyd gynghorwyr at y Gymraeg, ar drothwy Eisteddfod y Garreg Las.
Fe ddaw sylwadau Huw Murphy ar ôl i'r Cynghorydd Llafur Maureen Bowen ddweud y "dylsai pobl dalu am ddysgu Cymraeg eu hunain" ac ei bod hi'n poeni am y gost o hyrwyddo'r Gymraeg a chyfieithu.
Mewn e-bost at Newyddion S4C, dywedodd Maureen Bowen bod ganddi hawl i'w barn a bod "symiau enfawr" yn cael eu gwario ar y Gymraeg.
Dywedodd Cyngor Sir Penfro nad oedd sylw'r cyn gadeirydd yn adlewyrchu barn yr awdurdod.
Yn ystod trafodaeth yn un o bwyllgorau craffu’r cyngor wythnos ddiwethaf, dywedodd Maureen Bowen "ei bod hi'n falch" nad oedd hi yn swyddfeydd y cyngor fel "na fyddai cynghorwyr yn medru cael gafael arni" cyn mynd ymlaen i godi cwestiynau am gostau yn ymwneud â'r Gymraeg.
Roedd y Pwyllgor Craffu Polisi yn trafod strategaeth ddraft yr awdurdod ar gyfer y Gymraeg.
Dywedodd y Cynghorydd Bowen, sydd yn cynrychioli ward yn Noc Penfro: "Mae'n sgil wych i fod yn ddwyieithog ond dysgwch y Gymraeg ar eich cost eich hu.
"Dw i yn poeni am y gost o hyrwyddo'r Gymraeg a chyfieithu, er enghraifft i heddi, pan mae gyda ni blant yn gadael ysgolion heb sgiliau sylfaenol. Ac yna canmol yr ysgolion Cymraeg."
"Mae gan rieni plant sydd yn mynychu ysgolion Cymraeg ddiddordeb mawr yn eu haddysg.
"Yn fy ward i, dw’ i byth yn clywed Cymraeg.
"Mae'r ysgol cyfrwng Saesneg yn brin o arian. Ydyn ni yn mynd ag arian bant o bethau sydd gwir eu hangen er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg?
"Onid yw hyn yn ffordd gyflym o arbed arian, trwy edrych ar gost y Gymraeg a chyfieithu?"
Maureen Bowen oedd Cadeirydd y Cyngor Sir tan fis Mai.
Fe'i hatgoffwyd hi gan Gadeirydd y Pwyllgor, Aled Thomas, bod yna reidrwydd cyfreithiol i ddarparu gwasanaethau dwyieithog, ac nad oedd e’n cytuno gyda llawer o'i dadleuon.
Cadarnahodd y Cyfarwyddwyr Addysg, Stephen Richards-Downes, nad oedd "gwahaniaeth mewn gwirionedd" yn y modd yr ariannwyd ysgolion Cymraeg a chyfrwng Saesneg.
'Parch'
Yn ôl y Cynghorydd Huw Murphy, o'r grwp annibynnol, mae sylwadau'r Cynghorydd Bowen yn "mynd nol â ni hanner canrif" a bod hi'n siom clywed fod "pobl a'r fath syniadau dal yn y cyngor, â digon o ffydd i ddweud y sylwadau."
Dywedodd mai "nid dyma'r tro cyntaf" mae'r Cynghorydd Bowen wedi gwneud sylwadau am y Gymraeg, ac fe gwestiynodd a oedd y Blaid Lafur yn fodlon gyda "phobl yn gwneud sylwadau fel hyn yn gyhoeddus?"
"Mae’r gyfraith yn glir. Mae’r iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn gyfartal. Sdim y gost yn dod mewn i’r ffaith," meddai.
"Dw i yn rhoi parch i’r iaith Saesneg a dw i yn disgwyl i bobl sydd ddim yn deall Cymraeg i roi parch i fy iaith i.
"Dyna i gyd 'da ni’n gofyn amdano yw parch. Fod pobl yn rhoi parch ac yn deall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg i’r gymuned sydd yn siarad yr iaith."
Dywedodd y Cynghorydd Murphy ei fod yn bryderus am agweddau "negyddol" rhai cynghorwyr tuag at y Gymraeg, ar drothwy ymweliad y Brifwyl, ac yn dilyn ffrae arall am addysg Gymraeg y llynedd.
"Mae rhai aelodau o'r cyngor ddim yn deall faint mor bwysig yw'r iaith Gymraeg i gymunedau Cymraeg yn Sir Benfro a ni dan anfantais, achos does dim un Cymro Cymraeg yn y cabinet," meddai.
“S’neb yna i roi gair iddyn nhw a dweud grondwch 'ma, mae'r gogledd tipyn bach yn unigryw i'r de, ac mae angen i chi sylweddoli hynny.
”Mae'n rhaid i ni roi'r sialens mewn a gwneud hi'n glir bod y sylwadau hyn yn perthyn i'r hen ddyddiau.
“Mae'r gyfraith yn glir, mae'r iaith Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Mae beth mae hi yn dweud yn rhoi'r iaith Gymraeg yn ail i'r Saesneg."
'Siom'
Yn ôl Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith, mae'r "sylwadau yn anffodus" ac yn groes i "ddatblygiadau sydd wedi bod mewn addysg Gymraeg".
Roedd hi'n cyfaddef bod "hi'n syndod ac yn siom" bod "agweddau gwrth-Gymraeg" ar y cyngor.
"Bydden ni yn hoffi gweld bod y cynghorwyr yn gweld bod y Gymraeg yn gallu bod yn iaith gymunedol ar draws y sir," meddai.
“Mewn gwirionedd, mae'r cyngor yn datblygu a buddsoddi mewn darpariaeth addysg Gymraeg yn ne'r Sir."
Dywedodd hefyd bod "hi'n drueni" nad oedd siaradwr Cymraeg nac unrhywun o ogledd y sir yn y cabinet.
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Penfro nad oedd sylwadau Maureen Bowen yn "cynrychioli safbwynt yr awdurdod" a bod "Cyngor Sir Penfro yn llwyr gefnogi'r Gymraeg a gofynion llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r iaith.
"Mae fformiwla benodol i ariannu bob ysgol, boed nhw yn rhai cyfrwng Cymraeg neu Saesneg," medden nhw.
"Mae'r Cyngor, a nifer o bobl yn Sir Benfro, yn edrych ymlaen at groesawu'r Eisteddfod ym mis Awst."
Doedd Maureen Bowen ddim am wneud cyfweliad i Newyddion S4C ond mewn e-bost dywedodd bod hi'n "teimlo bellach bod hi'n amhosib cwestiynu gwariant ar yr iaith Gymraeg," a bod lle i gwestiynu'r ffaith bod y llywodraeth yn taflu arian at y Gymraeg yn ei geiriau hi, "heb fawr o effaith" wrth i nifer y siaradwyr Cymraeg barhau i ostwng.
Yn ôl Maureen Bowen, doedd hi "ddim yn gwrthwynebu pobl yn dewis dysgu Cymraeg," ac ei bod "hi'n ddysgwr ei hun."
Dywedodd hi hefyd bod y llywodraeth yn "mynd ag arian i ffwrdd o wasanaethau cyhoeddus" drwy "ddargyfeirio symiau mawr tuag at yr iaith Gymraeg" oddi wrth gwasanaethau byddai rhai etholwyr yn ystyried "yn fwy pwysig."
Roedd hi hefyd yn dweud bod ganddi “hawl ganddi i fynegi barn am hynny.”
'Cyfartal'
Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, waeth o le ydyn ni’n dod neu ble bynnag ydyn ni'n byw.
“Mae siarad mwy nag un iaith yn norm ar draws y rhan fwyaf o'r byd, ac rydyn ni’n falch o'n sgiliau a'n diwylliant dwyieithog ac amlieithog yma yng Nghymru.
“Mae gan y Gymraeg statws swyddogol, ac fel llywodraeth rydyn ni am ddiogelu a chryfhau'r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru - drwy ein system addysg ac yn ein cymunedau.
“Un o’n prif flaenoriaethau yw rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn ddod yn siaradwr Cymraeg annibynnol a hyderus drwy weithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg."
Dywedodd llefarydd ran Comisiynydd y Gymraeg: “Mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru ac, o ganlyniad i hynny, mae gan y Cyngor ddyletswyddau penodol o dan safonau’r Gymraeg i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.
“Yn dilyn cyflwyno Deddf y Gymraeg ac Addysg sydd yn ategu’r angen i ehangu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn rhagweithiol, mae disgwyliadau clir o ran hybu mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.
“Mae gwaith da a chadarnhaol yn digwydd ym Mhenfro yng nghyd-destun y Gymraeg a gobeithio y gellir adeiladu ar hynny yn y dyfodol.”