Yr artist David Hockney wedi marw yn 88 oed
Mae un o artistiaid mwyaf dylanwadol celf fodern o Brydain, David Hockney, wedi marw yn 88 oed.
Bu farw'n dawel yn ei gartref ddydd Iau, meddai ei gyhoeddwr Erica Bolton.
"Bu farw'r artist Prydeinig enwog David Hockney, un o'r ffigurau pwysicaf mewn celf gyfoes yn yr 20fed a'r 21ain ganrif, yn dawel yn ei gartref ar 11 Mehefin 2026, fis cyn ei ben-blwydd yn 89 oed," meddai datganiad gan ei gyhoeddwr.
Ychwanegodd: "Mae gwaddol parhaol David Hockney yn adlewyrchu ei frwdfrydedd sylfaenol dros fywyd, ei synnwyr digrifwch rhagorol, ei haelioni aruthrol, a'i chwilfrydedd ymchwiliol sy'n cael ei grynhoi gan ei ymadrodd nodweddiadol, Love Life."
"Bydd manylion y digwyddiadau coffa yn dilyn maes o law."
Cafodd Hockney ei eni yn Bradford yn Sir Efrog ar 9 Gorffennaf 1937, y pedwerydd o bump o blant mewn teulu dosbarth gweithiol.
Yn 11 oed penderfynodd ei fod am fod yn artist, uchelgais na chafodd ei annog gan ei athrawon yn Ysgol Ramadeg Bradford.
Ond gyda chefnogaeth ei rieni, aeth i'r coleg celf lleol cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg Celf Frenhinol Llundain.
O byllau nofio glas yng Nghaliffornia i dirweddau gwyrddlas Sir Efrog, roedd celf David Hockney yn llawn lliw.
Dros gyfnod o fwy na saith degawd, daeth yn un o artistiaid mwyaf enwog y byd wrth greu rai o'r gweithiau celf mwyaf cofiadwy'r 20fed a'r 21ain ganrif.
Yn 2018, cafodd ei baentiad Portrait of an Artist (Pool with Two Figures) ei werthu mewn ocsiwn yn Efrog Newydd am $90 miliwn (£70 miliwn).
Er hynny, ar ddechrau ei yrfa, roedd nifer yn feirniadol o'i arddull beintio syml a'i hoffter o liwiau llachar, gan ddweud ei bod yn gam yn ôl.
Ond dywedodd Hockney ar y pryd nad oedd yn "malio dim" am y feirniadaeth honno.
Yn y 1960au, cafodd ei swyno gan ryddid Califfornia gan wneud y dalaith yn brif gartref iddo am 40 mlynedd.
Yn benodol, fel dyn hoyw agored ar adeg pan oedd cyfunrywioldeb yn dal yn anghyfreithlon yn Lloegr, roedd yn gyfle iddo archwilio ei rywioldeb.
Yno fe gynhyrchodd gyfres o baentiadau yn cynnwys dynion noeth neu hanner noeth, gan eu disgrifio'n ddiweddarach fel "propaganda cyfunrywiol".
"Roeddwn i'n teimlo y dylid ei wneud. Ni fyddai neb arall yn ei ddefnyddio fel pwnc oherwydd ei fod yn rhan ohonof i," meddai ar y pryd. "Roedd yn bwnc y gallwn ei drin gyda hiwmor."
Drwy gydol ei fywyd, manteisiodd ar gyfleoedd i ddefnyddio technoleg fel cyfrwng artistig.
Yn yr 1980au, creodd weithiau celf ar raddfa fawr gyda phrintiau Polaroid, ac yn y 2000au defnyddiodd yr ap Brushes i greu cannoedd o luniau ar ei iPad.
Roedd ystod eang o bynciau yn ymddangos yn ei waith, o fywydau llonydd a thirweddau i bortreadau o'i ffrindiau a'i deulu - a hyd yn oed ei gŵn.