Newyddion S4C

Cofio 9/11: Atgofion y Cymry oedd yn Efrog Newydd

Newyddion S4C 10/09/2021

Cofio 9/11: Atgofion y Cymry oedd yn Efrog Newydd

20 mlynedd yn ddiweddarach, mae ergyd yr ymosodiadau yn dal yn fyw yng nghof rhai Cymry oedd yn Efrog Newydd adeg 9/11.

Stori Rhiannon

“Ma' siarad amdano fo yn dod â'r atgofion i gyd yn ôl, mwy na byswn i wedi disgwyl ar ôl ugain mlynedd".

Mae Rhiannon Platt yn byw yn Efrog Newydd. Roedd hi’n dyst i’r cyfan ar yr unfed ar ddeg o Fedi, 2001.

“Dw i’n cofio’r diwrnod yna mor glir. Awyr las a jyst llinell dew, trwchus o fwg.

“Dw i’n cofio yn union lle o’n i, be on i’n ‘neud, hefo pwy o’n i, y ffordd o’n i’n teimlo".

Roedd Rhiannon yng nghanol y ddinas.

“Dw i’n cofio mynd allan ar y stryd a jyst sbio i lawr 5th avenue a jyst fweld y mwg a chlywed y sirens yn bobman.

“Ddim yn ddiwrnod fyswn i byth eisiau byw drwyddo fo eto”, ddywedodd Rhiannon wrth ail-fyw’r atgofion.

Stori Rhun

Un arall a dystiodd y cyfan oedd y cyn-newyddiadurwr, Rhun ap Iorwerth. Roedd ar wyliau teuluol yn yr Unol Daleithiau ar y pryd.

Mi oedd hi y stori newyddion fwyaf erioed mae'n siŵr.

A mi oedd Efrog Newydd gyfan, nid dim ond fi fel newyddiadurwr, neu fi a Mel y dyn camera odd yn sylweddoli hynny. Ond mi oedd Efrog Newydd a'r byd yn sylweddoli hynny".

Daeth Rhun â’r diweddaraf yn fyw o Efrog Newydd i Gymru fel newyddiadurwr: “Baswn i wedyn am y dyddiau nesaf yn trio cyfleu yr teimlad, yr emosiwn, yr ymateb ar y ddaear yn Efrog Newydd.

“Roedd hyn yn gymysg â'r galar dyfnaf posib, a chynddaredd hefyd gan bobl oedd wedi gweld hyn yn digwydd ar eu tir nhw mewn ffordd yr oddan nhw erioed wedi dychmygu alla ddigwydd.

 Mi oedd yna gyfradd nid ansylweddol o'r boblogaeth, ond hefyd yn chwilio yn syth am ddial, a hynny yn drobwynt yn hanes y byd mewn ffordd".

Stori Gareth

Roedd Gareth John hefyd ar ei wyliau yn Efrog Newydd ar y pryd.  Prynodd docyn trên i’r ddinas y diwrnod cyn y terfysg.

O'dd hi tua un o'r gloch y prynhawn atho ni lan, ma' dal 'da fi'r tocyn adref actually, un o'r gloch y prynhawn y diwrnod cynt. Roedd hwn yn bwrw fi, y bobl oedden ni 'di gweld y diwrnod o'r blan, a siarad 'da nhw, oedden nhw i gyd siŵr o fod 'di marw. 

Ie oedd hwn yn bach o braw rili, sioc".

Roedd Gareth yn methu credu’r hyn oedd yn digwydd.

“Jyst wrth i ni mynd mas o'r deli yma, rhywun yn rhuthro mewn a gweiddi 'Oh my God a plane's just hit the other tower'.

“Dau dŵr yn y pellter, dau o nhw ar dân, a nes i weud wrth fy ffrind, ni'n watcho miloedd o bobl yn marw fan hyn. Oedd e fel cael 'punch' yn y stumog, oedd e fel ma' hwn yn wir, ma’ hwn yn wir yn digwydd o flaen ni".

Mae’r atgofion yn dal mor fyw ag erioed.

“Bob mis Medi, dwi'n meddwl amdano fe 'to".

Llun: Wally Gobetz [drwy Flickr]

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.