Cymru angen buddugoliaeth yn erbyn y Weriniaeth Tsiec i orffen ar frig y grŵp
Cymru angen buddugoliaeth yn erbyn y Weriniaeth Tsiec i orffen ar frig y grŵp
Mae menywod Cymru angen buddugoliaeth yn erbyn y Weriniaeth Tsiec nos Fawrth er mwyn gorffen ar frig eu grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Roedd y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Montenegro nos Wener yn ganlyniad siomedig i dîm Rhian Wilkinson.
Wedi i'r Weriniaeth Tsiec ollwng pwyntiau yn erbyn Albania, byddai buddugoliaeth i Gymru wedi eu codi i'r safle cyntaf yng ngrŵp B1 gydag un gêm i fynd.
Fe sgoriodd Hannah Cain yn yr hanner cyntaf gan roi Cymru ar y blaen, ond fe ddaeth Montenegro yn gyfartal ar ôl 79 munud gyda gôl gan Jasna Djokovic.
Fe orffennodd y gêm yn gyfartal, gyda gôl hwyr y tîm cartref yn atal Cymru rhag gorffen y noson ar frig y grŵp.
Beth sydd angen i Gymru ei wneud?
Mae Cymru eisoes wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle, ond bydd eu safle terfynol yn y grŵp yn effeithio ar bwy fydd y crysau cochion yn chwarae yn eu herbyn yn y gemau ail-gyfle.
Mae Cymru yn parhau yn yr ail safle ar hyn o bryd yn y grŵp, cyn y gêm allweddol yn erbyn y Weriniaeth Tsiec - sydd yn y safle cyntaf ar hyn o bryd.
Pe bai Cymru wedi curo Montenegro, byddai pwynt yn ddigon i dîm Rhian Wilkinson orffen ar frig y grŵp, gan olygu llwybr mwy ffafriol i'r gemau ail-gyfle yn ddiweddarach eleni.
Ond yn dilyn y gêm gyfartal, mae'n rhaid i Gymru ennill os ydyn nhw am ennill y grŵp.
'Rhwystredig'
Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd Rhian Wilkinson: "Doedd hynny ddim digon da.
"Ar adegau, rydyn ni'n chwarae mewn ffordd sydd yn awgrymu ein bod ni'n well na'r hyn ydyn ni go iawn.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/2063956191579955347?s=20
"Doedden ni ddim yn haeddu'r fuddugoliaeth nos Wener. Doedden ni ddim ar ein gorau."
Ychwanegodd Wilkinson fod gêm nos Fawrth am fod yn un "agos."
"Mae'n rhaid i ni gymryd y cyfleoedd ar bob cyfle. Dwi'n siŵr fod hyfforddwr y Weriniaeth Tsiec yr un mor rhwystredig â fi."
Bydd y gic gyntaf rhwng Cymru a'r Weriniaeth Tsiec am 18.00, gyda'r uchafbwyntiau ar S4C am 21.50.