Y newyddiadurwr Jon Snow yn derbyn diagnosis o Alzheimer's

Jon Snow - credit Channel 4 News.jpg

Mae’r newyddiadurwr Jon Snow wedi cadarnhau ei fod wedi derbyn diagnosis o Alzheimer’s.

Dywedodd Mr Snow, sy'n 78 oed: "Ar y dechrau roeddwn i eisiau ei guddio, mae cymaint o ragfarn.

"Os oes unrhyw awgrym o ddirywiad meddyliol, rydych chi'n marw mewn ffordd. Mae yna adegau pan mae'n ymddangos, ond nid yw'n gyflwr bob dydd a dyna beth rwy'n glynu wrtho."

Mewn datganiad, dywedodd yr elusen Cymdeithas Alzheimer's: “Mae’r cyflwynydd profiadol wedi rhannu gyda ni ei fod yn byw gyda dementia, ac yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr sy’n effeithio ar tua miliwn o bobl ar draws y DU.”

Dywedodd yr elusen fod y dyn 78 oed, sy’n adnabyddus fel cyn-gyflwynydd Newyddion Channel 4, wedi penderfynu siarad yn gyhoeddus mewn rhaglen ddogfen newydd a fydd yn cael ei darlledu yn ddiweddarach y mis hwn.

Dywedodd Michelle Dyson, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Alzheimer's: "Mae penderfyniad Jon i siarad yn gyhoeddus am ei ddiagnosis o ddementia yn weithred wirioneddol o ddewrder a bydd ei stori yn atseinio gyda chynifer.

"Bydd ei gefnogaeth i Gymdeithas Alzheimer's yn helpu i sbarduno sgwrs genedlaethol am ddementia sydd ei hangen arnom ni mor daer.

"Er mai dyma'r cyflwr sydd yn lladd y nifer fwyaf o bobl yn y DU, nid yw dementia yn cael ei drin gyda'r un brys â chyflyrau iechyd mawr eraill fel canser.

"Gyda’i wraig Precious wrth ei ochr, mae Jon yn taflu goleuni ar yr angen am fynediad cyflymach at ddiagnosis teg.”

Llun: Jon Snow (Channel 4)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.