Y Gweilch yn arwyddo cytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru nes diwedd tymor 2027/28

Gweilch

Mae'r Gweilch wedi arwyddo cytundeb newydd gydag Undeb Rygbi Cymru nes diwedd tymor 2027/28.

Mae'r Cytundeb Rygbi Proffesiynol 2025 (PRA25), gyda pherchnogion Gweilch, Y11 Sport & Media, yn golygu bod y clwb rhanbarthol bellach yn ymuno â Chlwb Rygbi'r Dreigiau a Rygbi Caerdydd ar PRA25. 

Mae'r cytundeb yn sail i'r berthynas waith rhwng Undeb Rygbi Cymru a'r timau dynion rhanbarthol. 

Dywed Undeb Rygbi Cymru mai'r nod yw "rhoi sefydlogrwydd ariannol a chreu'r sylfeini ar gyfer llwyddiant ym mhob rhan o'r gêm broffesiynol yng Nghymru."

Mae'r undeb wedi profi cyfnod cythryblus, gyda chynlluniau dadleuol i leihau nifer y timau proffesiynol o bedwar i dri wedi denu beirniadaeth, protestiadau a chamau cyfreithiol.

Cyhoeddodd cadeirydd yr Undeb, Richard Collier-Keywood, ym mis Mawrth y bydd yn gadael ei rôl ar ddiwedd ei gytundeb yn yr haf.

Mae'r cytundeb hefyd wedi cael ei gynnig i'r Scarlets. 

Roedd y Gweilch a Scarlets wedi penderfynu peidio ag arwyddo’r cytundeb y llynedd, a fyddai’n cynyddu cyllid y rhanbarthau o £4.5 miliwn i £6.5 miliwn hyd nes 2029.

Dywedodd y Gweilch mewn datganiad fod y cytundeb yn "arwydd o gyfnod o sefydlogrwydd ar gyfer y rhanbarth.

"Elfen allweddol o'r cytundeb newydd yw ei fod yn darparu cydweithrediad gwell gyda URC."

Wrth ymateb i lofnodi'r cytundeb, dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru: "Mae PRA25 yn creu mwy o aliniad ar draws rygbi yng Nghymru, ac rwy'n falch iawn bod trafodaethau adeiladol gyda Y11 Sport & Media wedi arwain at y Gweilch yn llofnodi'r cytundeb. 

"Mae tri allan o bedwar o'n clybiau dynion rhanbarthol bellach ar PRA25 ac mae gwaith diwydrwydd dyladwy gyda'r Scarlets yn parhau. 

"Rydym yn edrych ymlaen at gael ein holl dimau proffesiynol dynion ar y cytundeb cyn dechrau'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig nesaf ym mis Medi."

Mae'r penderfyniad hefyd wedi cael ei groesawu'n gynnes gan Marianne Økland, Cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol: "Rwyf wedi cael fy nghalonogi'n fawr gan y ffordd gydweithredol y cynhaliwyd y trafodaethau rhwng URC a'r clybiau proffesiynol dros y misoedd diwethaf. 

"Mae’r cynnydd ystyrlon a wnaed ar fodel y dyfodol ar gyfer y llwybrau datblygu hefyd yn dystiolaeth o’r ysbryd cadarnhaol hwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.