Dedfrydu dyn ar ôl rhyddhau dyn arall oedd wedi ei garcharu ar gam

Paul Quinn

Mae troseddwr rhyw wedi ei ddedfrydu ddydd Gwener i 23 mlynedd yn y carchar am drosedd y treuliodd dyn arall dieuog dros ugain mlynedd yn y ddalfa amdano.

Cafodd Paul Quinn, 51, ei garcharu am 21 mlynedd a thair blynedd ar drwydded estynedig am dreisio dynes.

Daw wedi i Andrew Malkinson eisoes dreulio 17 mlynedd yn y carchar am yr un drosedd, yn un o’r achosion gwaethaf sy’n hysbys o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes troseddol Prydain.

Image
Andrew Malkinson
Andrew Malkinson

Wrth garcharu Paul Quinn, ar ôl achos llys chwe wythnos yn Llys y Goron Manceinion, dywedodd Mr Justice Robert Bright wrth y diffynnydd ei fod “wedi eistedd yn ôl a mwynhau eich rhyddid ar draul dyn diniwed”.

“Mae’n wir na wnaethoch chi erioed unrhyw beth i awgrymu bod Mr Malkinson yn gysylltiedig â’r drosedd, ond oni bai amdanoch chi, ni fyddai byth wedi cael ei holi hyd yn oed,” meddai.

Disgrifiodd y barnwr fod y ddynes yr ymosododd Quinn arni, sydd wedi gorfod rhoi tystiolaeth mewn dwy achos llys, fel “arwres”.

Ar ôl i Paul Quinn gael ei ganfod yn euog ym mis Ebrill, dywedodd Andrew Malkinson ei fod wedi cael ei drin fel “bwch dihangol hwylus” gan yr heddlu, a oedd eisiau “euogfarn gyflym”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.