Cymeradwyo tŵr 33 troedfedd a fydd yn ‘sefyll allan’ ynghanol Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo tŵr 33 llawr a fydd yn newid golwg canol y ddinas.
Y bwriad yw y bydd yr adeilad 400 ystafell yn cael ei adeiladu gan y cwmni sy’n wreiddiol o ogledd Cymru, Watkin Jones, ar un o ffyrdd prysuraf y brifddinas.
Fe fydd yn cael ei adeiladu ar ddarn o dir lle mae strydoedd Biwt, Hope a Heol y Tollty (Customs House) yn cwrdd, ger gwesty Radisson Blu a phencadlys undeb Unsain yng Nghymru.
Dywedodd y Cynghorydd Jon Shimmin y byddai’r adeilad yn “sefyll allan yn fwriadol iawn” ynghanol y ddinas a’i fod yn “caru hynny.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Sean Driscoll: “Mae’r cynllun yn wych, rwy’n hoffi’r adeilad.”
Awegrymodd ei fod yn welliant ar gynlluniau blaenorol i adeiladu llety myfyrwyr ar y safle gan y byddai’r refeniw treth gyngor yn “cael croeso”.
Roedd y Cynghorydd Peter Wong serch hynny yn feirniadol o’r diffyg darpariaeth ar gyfer beiciau ar y safle, gan nodi mai dim ond 241 o lefydd beiciau sy’n cael eu cynnig.
Roedd hynny tua 60% o’r hyn oedd yn ofynnol.
“Os ydyn ni eisiau annog mwy o feicio o gwmpas y ddinas, yna mae angen iddyn nhw gael mwy o le storio beiciau diogel ar gyfer datblygiad o’r maint hwn,” meddai Peter Wong.
Ymatebodd y swyddog cynllunio Kenneth Reid i ddweud y byddai faint o le oedd yn yr adeilad i storio beiciau yn ymateb i’r galw.
Mae’r cais yn nodi: “Bydd y cynllun yn cyfrannu’n gadarnhaol at wead trefol yr ardal o’i gwmpas, gan greu ychwanegiad newydd at orwel Caerdydd ar safle cyswllt allweddol sydd wedi bod yn wag ers cyfnod sylweddol o amser.
“Mae datblygu’r safle hwn yn cyd-fynd â’r amcan i adfwyio Caerdydd ac fe fydd yn darparu llety preswyl dwysedd uchel y mae mawr ei angen mewn lleoliad cynaliadwy yng nghanol y ddinas.”
Fe gafodd cwmni Watkin Jones ei sefydlu ym Mangor yn 1791.
Llun: Darlun o'r adeilad arfaethedig gan Credit Rio Architects Ltd.