Unig Gomando benywaidd lluoedd Prydain ymysg tri a fu farw mewn damwain hofrennydd
Mae'r unig gomando benywaidd oedd yn gwasanaethu gyda lluoedd arfog Prydain wedi cael ei henwi ymysg y tri a fu farw mewn damwain hofrennydd yn Nyfnaint.
Bu farw'r Is-gapten Lily-Mae Fisher, 31 oed, gyda'r Is-gapten Gomander Chris Gayson, 42 oed, a'r Is-Swyddog Owen Green, 24 oed, yn dilyn y digwyddiad yn Sourton Down, ger Okehampton, ychydig cyn 04:00 fore dydd Mercher.
Disgrifiodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn John Healey y tri fel "aelodau ymroddedig a gwerthfawr iawn o'u sgwadronau a oedd yn ymgorffori'r gorau o'n Lluoedd Arfog".
Plymiodd yr hofrennydd Merlin Mk4 i gae yn ystod ymarfer hyfforddi, gan adael yr awyren wedi'i dinistrio'n llwyr.
Disgrifiodd teulu'r Is-gapten Fisher hi fel "menyw, merch, chwaer a phartner eithriadol".
Mewn datganiad, dywedodd y teulu: "Manteisiodd ar bob cyfle i wthio ei therfynau, cyflawni mwy, a dod â'r gorau allan yn y rhai o'i chwmpas.
"Rydym mor falch o bopeth a gyflawnodd.
“Mae hi wedi gadael twll anfesuradwy yn ein bywydau, ac ym mhob un o’r bywydau y mae hi wedi’u cyffwrdd a’u hysbrydoli.”