Pont newydd dros y Taf yng Nghaerdydd gam yn agosach
Mae cynllun i gael pont droed a beicio newydd dros Afon Taf yng Nghaerdydd wedi dod gam yn agosach.
Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer y bont newydd i gysylltu'r Marl yn Nhrelluest (Grangetown) â Pharc Hamadryad yn Nhre-biwt.
Mae'r penderfyniad ddydd Iau yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn y gwaith i adfywio ardal Trem y Môr - cynllun mawr o fewn rhaglen dai y Cyngor i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd ledled y ddinas.
Mae'r bont yn rhan o gynllun ehangach Trem y Môr, a fydd yn darparu cartrefi newydd a mannau cyhoeddus i'r gymuned leol.
Bydd cam nesaf y cynllun yn canolbwyntio ar ddatblygu strategaeth ariannu ar gyfer y bont, ac mae’r Cyngor yn archwilio'r holl opsiynau sydd ar gael.
Yn rhyw 165 metr o hyd a chwe metr o led, mae'r bont wedi'i chynllunio i fod yn "gwbl hygyrch, gyda graddiant ysgafn a lle i gerddwyr a beicwyr" medd y cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae'r bont newydd yn chwarae rhan bwysig yn ein gweledigaeth ar gyfer adfywio Trem y Môr a'r ardal ehangach, yn ogystal â gwella teithio llesol ar hyd a lled y ddinas.
"Bydd yn darparu llwybr diogel, pwrpasol ar gyfer cerdded a beicio, gan greu cysylltiad dwyrain-gorllewin newydd ar draws yr afon a fydd yn annog teithiau mwy cynaliadwy ac yn lleihau dibyniaeth ar geir.
"Mae'n newyddion gwych bod y Pwyllgor Cynllunio wedi rhoi cymeradwyaeth. Byddwn yn parhau i archwilio opsiynau cyllido i helpu i ddarparu'r bont a chryfhau llwybrau allweddol yn ein rhwydwaith teithio llesol."