Ffilm newydd 'Madfabulous' yn gobeithio rhoi Ynys Môn ar lwyfan y byd

Madfab

Mae disgwyl i Ynys Môn elwa ar sylw rhyngwladol sylweddol wrth i’r ffilm newydd Madfabulous gael ei rhyddhau mewn sinemâu ledled y Deyrnas Unedig ddydd Gwener.

Mae’r cynhyrchiad uchelgeisiol, a gafodd ei ffilmio’n rhannol ar Ynys Môn, ac yng Nghaernarfon a Phwllheli yng Ngwynedd, yn adrodd hanes rhyfeddol Henry Paget, Pumed Marcwis Ynys Môn, a oedd yn un o gymeriadau mwyaf lliwgar a dadleuol ei gyfnod.

Mae’r ffilm yn serennu’r actor Cymreig Callum Scott Howells, sy’n adnabyddus am ei ran yn y gyfres It’s A Sin

Yn rhan o'r cast hefyd mae Rupert Everett fel y bwtler Gelert a Ruby Stokes fel Lily, aelod o deulu'r Marcwis. 

Mae'r ffilm wedi’i chyfarwyddo gan Celyn Jones a’i hysgrifennu gan Lisa Baker, gyda’r stori’n dilyn Henry Paget wrth iddo ddychwelyd i ogledd Cymru yn y 1890au i hawlio ei etifeddiaeth aristocrataidd. 

Image
Plas Newydd
Plas Newydd, sydd rhwng pentrefi Llanfairpwll a Brynsiencyn oedd cartref y teulu Paget.

Yn hanesyddol, roedd Henry Paget yn ffigwr unigryw. Daeth yn enwog am ei berfformiadau theatrig modern, ei wisgoedd egsotig a’i barodrwydd i herio normau cymdeithasol a rhywedd ei gyfnod. 

Cafodd ei lysenwi’n 'The Dancing Marquess' ac fe wariodd ffortiwn enfawr y teulu cyn marw’n ifanc yn 29 oed.

Mae llawer wedi ei ystyried fel dyn oedd ymhell o flaen ei amser. 

Mae’r cynhyrchwyr yn gobeithio fod y ffilm nid yn unig yn adfywio diddordeb yn hanes rhyfeddol Henry Paget, ond hefyd yn tynnu sylw at harddwch ac unigrywiaeth Ynys Môn. 

Mae nifer o olygfeydd yn arddangos tirweddau trawiadol yr ardal, gan roi llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol i’r ynys. 

Mae arbenigwyr twristiaeth yn nodi bod cynyrchiadau poblogaidd yn aml yn arwain at gynnydd mewn ymwelwyr, ac mae gobaith y gallai Madfabulous wneud yr un fath i Ynys Môn. 

Wrth i’r ffilm gyrraedd y sgrin fawr, mae llawer yn credu y gallai hon fod yn foment bwysig i’r ynys - cyfle prin i gyflwyno rhywfaint o hanes Cymru, ei diwylliant a’i thirweddau i gynulleidfa newydd ledled y byd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.