‘Pryder mawr’: Data disgyblion a staff wedi’i gymryd o ysgol ym Mhowys

Ysgol

Mae’r heddlu ac arbenigwyr seibr arbenigol yn ymchwilio achos o gymryd data disgyblion a staff o ysgol ym Mhowys, meddai’r cyngor.

Dywedodd y cyngor bod 13 o ysgolion yn rhan o’r digwyddiad seiberddiogelwch (cyber security) ym mis Ebrill ond, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, mai dim ond o un ysgol y cafodd y data ei gymryd.

Roedden nhw’n asesu a oedd data sensitif neu ddata sy'n gysylltiedig â diogelu am blant wedi'i ddatgelu, ac yn cysylltu ag unigolion oedd wedi eu heffeithio yn uniongyrchol.

Dywedodd y Cynghorydd Raiff Devlin, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Digidol bod y digwyddiad yn peri “pryder mawr”.

“Rydym am sicrhau pobl fod camau gweithredu wedi'u cymryd ar unwaith i ddiogelu systemau, ac mae ymchwiliad llawn ar y gweill gyda chefnogaeth arbenigol,” meddai.

"Rydym yn cysylltu ag unigolion yr effeithir arnynt yn uniongyrchol lle bo angen ac yn rhoi cyngor ar y camau y gallant eu cymryd i amddiffyn eu hunain.

"Mae diogelwch a lles disgyblion a staff yn parhau i fod o'r flaenoriaeth bennaf, ac rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw wrth i'n hymchwiliad fynd rhagddo a byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion drwyddi draw."

Mae’r ysgolion yn parhau i fod ar agor ac nid oes unrhyw dystiolaeth bod y digwyddiad hwn yn effeithio ar eu diogelwch neu weithrediad o ddydd i ddydd, medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.